Darganfod corff dyn yn y môr oddi ar arfordir Pen Llŷn

16/09/2021
Gwylwyr y Glannau

Cafodd corff dyn ei ddarganfod yn farw yn y môr ger Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn brynhawn dydd Mercher.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am 17:21, ar ôl i Wylwyr y Glannau ofyn am gymorth wedi i'r dyn gael ei ddarganfod yn anymwybodol yn y dŵr.

Fe gadarnhaodd Heddlu'r Gogledd bod yr Ambiwlans Awyr hefyd wedi ei galw, ond bod y dyn 72 oed wedi marw.

Mae'r heddlu yn dweud nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus a bod swyddfa'r Crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.