Ynys Môn: Pont y Borth i gau wrth i ddathliadau 200 mlwyddiant gael eu cynnal
Bydd Pont y Borth ar gau am gyfnod ddydd Sadwrn wrth i ddathliadau i nodi ei 200 mlwyddiant gael eu cynnal.
Bydd Gŵyl y Bont 200 yn cynnwys gorymdaith arbennig dros y bont, cerddoriaeth fyw a nifer o ddigwyddiadau i ddathlu hanes y strwythur Hanesyddol.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10.30 o faes parcio Coed Cyrnol ym Mhorthaethwy, gan groesi Pont y Borth i’r tir mawr cyn dychwelyd i’r dref ac ymlaen i Gae Brenin Siôr, lle bydd prif ddathliadau’r dydd yn cael eu cynnal.
Mae’r bont wedi derbyn llawer o sylw yn y wasg yn ddiweddar, gyda phryderon fod cerbydau gordrwm yn ei chroesi yn ei pheryglu, gan achosi iddi gau yn gyson wrth i archwiliadau diogelwch gael eu gorfodi.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 11.00 a 19.00, gyda mynediad am ddim i bawb.
Er mwyn cefnogi’r dathliadau, bydd cyfyngiadau traffig ar ffordd yr A5 ym Mhorthaethwy ddydd Sadwrn.
Bydd mesurau rheoli traffig ar waith rhwng 06.00 a 10.00, gan gynnwys goleuadau traffig, er mwyn caniatáu i’r ardal gael ei pharatoi ar gyfer y digwyddiad.
Yna, rhwng 10.00 a 14.00, bydd Pont y Borth ar gau yn llwyr i gerbydau er mwyn cynnal yr ŵyl yn ddiogel.
Ymhlith atyniadau'r ŵyl bydd perfformiadau gan Fand Pres Porthaethwy, bandiau pres o Iwerddon a Batala Bangor.
Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr fwynhau bwyd, diod a chrefft gan fusnesau lleol o Ynys Môn a gogledd Cymru.
Bydd teithiau cerdded yn edrych ar hanes Pont Menai a’r ardal, yn ogystal â gweithgareddau i deuluoedd.
Etifeddiaeth Thomas Telford
Cafodd Pont Menai ei hagor yn 1826, ar ôl iddi gael ei dylunio gan y peiriannydd sifil Thomas Telford.
Roedd y bont yn ddatblygiad arloesol ym myd peirianneg ac yn ffordd newydd o gysylltu Ynys Môn â thir mawr Cymru.
Fe wnaeth hynny newid y ffordd roedd pobl a nwyddau yn teithio rhwng yr ynys a’r tir mawr, gan chwarae rhan bwysig yn natblygiad masnach a chyfathrebu.
Mae dyddiad dathliadau Gŵyl y Bont 200 wedi’i ddewis i gyd-fynd â phen-blwydd Thomas Telford.
Dywedodd llefarydd ar ran pwyllgor trefnu Gŵyl y Bont 200: "Mae hyn yn llawer mwy na gŵyl yn unig - mae’n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddathlu un o bontydd mwyaf eiconig y byd a’r gymuned sydd wedi tyfu o’i chwmpas dros y 200 mlynedd diwethaf.
"O’r orymdaith ysblennydd dros Bont Menai i ŵyl sy’n arddangos y gorau o’n busnesau lleol, ein perfformwyr, ein cerddorion a’n mudiadau cymunedol, mae’r diwrnod yn addo bod yn deyrnged deilwng i etifeddiaeth ryfeddol Thomas Telford.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt i fod yn rhan o’r achlysur hanesyddol hwn."