‘Bydd hi’n unigryw’: Aled Griffiths yn edrych ymlaen at Eisteddfod 2027
‘Bydd hi’n unigryw’: Aled Griffiths yn edrych ymlaen at Eisteddfod 2027
Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027 wedi dweud mai’r nod yw cynnal Prifwyl “gartrefol, unigryw” yn Nyffryn Dyfi y flwyddyn nesaf.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn ardal Glantwymyn, ger Machynlleth, rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst 2027.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r Brifwyl ymweld â Dyffryn Dyfi ers 1981, er iddi gael ei chynnal ym Meifod ddwywaith ers hynny, yn 2003 ac yn 2015.
Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, dywedodd Aled Griffiths nad efelychu Eisteddfod y Garreg Las fydd y bwriad.
“Yn sicr, fyddan ni ddim yn efelychu’r Steddfod yma,” meddai.
“Mae’r Eisteddfod yma’n wych, ac mae pawb yn mynd i fod yn cofio’r Eisteddfod yma am flynyddoedd i ddod.
“Ond ein nod ni ydy cynnal Steddfod gartrefol, unigryw yn Nyffryn Dyfi, a dw i’n ffyddiog byddan ni’n gallu gwneud hynny.
“Pan fydd pobl yn dod i’r Maes, byddan nhw’n gweld Mwynder Maldwyn ar ei orau, ac fe fyddan ni ar y ffin rhwng Maldwyn a Meirionnydd.
“Da ni’n hapus iawn ac yn edrych ymlaen i groesawu pawb.”
Bydd dalgylch yr Eisteddfod yn cynnwys Powys gyfan a de Meirionnydd, gan gynnwys Dyffryn Dysynni, ardal Dolgellau a phum plwyf Penllyn.
Mae hynny’n golygu y bydd cyfle i gymunedau ar draws y ddwy sir gymryd rhan yn y paratoadau a chynnal digwyddiadau i godi arian ar gyfer y gronfa leol.
‘Gwaith tîm’
Cynhaliwyd Gŵyl Gyhoeddi’r Eisteddfod yn Llanidloes ym mis Mai, ac mae pwyllgorau apêl lleol bellach wrthi’n trefnu gweithgareddau ar draws y dalgylch.
Dywedodd Mr Griffiths fod cyrraedd y targed ariannol yn her, ond bod y bwrlwm sy’n cael ei greu yn bwysicach na’r swm ei hun.
“Mae ’na heriau, wrth gwrs, pan dach chi isio codi arian i gronfa leol, ac mae’n swm sylweddol.
“Ond, yn fy marn i, mae’r swm a’r targed da ni eisiau hel yn eilaidd i’r mwynhau, y bwrlwm a’r cyffro da ni’n ei gael wrth wneud y digwyddiadau yma.
“Mae’n rhoi balchder i mi wrth sylweddoli bod pobl yn gyffrous, mae pobl yn edrych ymlaen am Eisteddfod ac mae pawb yn tynnu pwysau.
“Felly, gwaith tîm ydy o.”
Ychwanegodd fod y cynlluniau ar gyfer cymeriad a rhaglen y Brifwyl yn parhau i ddatblygu.
“Mae’r trefniadau a’r syniadau yn dal i ddod. Un peth sy’n sicr, bydd hi’n unigryw.
“Dyna be sy’n glên am yr Eisteddfod. Mae pob Eisteddfod yn wahanol, ac mae dach chi’n gallu cael profiadau newydd ond hefyd atgofion newydd.
“A dyna fyddan ni’n trio ei greu.”
Cysylltiad teuluol
Mae gan Mr Griffiths gysylltiad teuluol hir â’r Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd ei dad, Meurig Griffiths, yn un o’r macwyaid pan gynhaliwyd y Brifwyl ym Machynlleth yn 1937, ac yn gadeirydd y pwyllgor cyllid pan ddychwelodd yn 1981.
Roedd Aled Griffiths ei hun yn gwerthu papur bro Y Blewyn Glas ar y Maes yn 1981. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Gôr Meibion Machynlleth ers i’r côr gael ei sefydlu yn ystod paratoadau Eisteddfod Meifod yn 2015.
Mae’n ffermio ar y fferm deuluol ger Cwmllinau ac yn aelod o Gyngor Cymuned Glantwymyn. Mae hefyd yn gweithio fel ysgrifennydd ac asiant yswiriant i’r NFU yn Y Drenewydd.
Eleni, roedd yn rhan o Gôr Ffermwyr Hawkstone, a enillodd Britain’s Got Talent. Mae bellach yn ceisio denu ei gyd-aelodau i’r Maes yn 2027.
“Dw i’n trio perswadio fy nghyfeillion newydd yng Nghôr Ffermwyr Hawkstone i ddod i gystadlu yn Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd.
“Pwy a ŵyr? Gawn ni weld os maen nhw’n dod.”
Dywedodd Mr Griffiths hefyd ei fod yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn dod i adnabod tafodiaith yr ardal.
“Bydd ’na groeso cynnes i bawb, a dw i’n gobeithio fydd pawb yn dod yna yn siarad ychydig bach fel ni.”