Adroddiad newydd yn codi pryderon am arweinyddiaeth a diwylliant Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymateb i gyhoeddi adroddiad annibynnol newydd sydd yn nodi pryderon ar draws arweinyddiaeth, diwylliant, llywodraethiant, cynllunio a gallu sefydliadol y bwrdd iechyd.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r trefniadau ymyrraeth wedi’i thargedu sydd ar waith yno ar hyn o bryd.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor AS, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, mae canfyddiadau'r adroddiad "yn annerbyniol ac y mae rhaid mynd i'r afael â hwy a hynny ar frys".
"Mae'r adroddiad yn glir bod heriau'r bwrdd iechyd yn systemig ac yn hirsefydlog, a bod angen gwaith ad-drefnu sefydliadol, un cynllun adfer, atebolrwydd cryfach, sicrwydd a newid diwylliannol," meddai.
Ymyrraeth
Ym mis Gorffennaf 2025, gosodwyd y Bwrdd Iechyd ar Lefel 4 - sef ymyrraeth wedi’i thargedu - o fewn trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o'r broses hon, comisiynwyd Perfformiad a Gwella GIG Cymru i gynnal asesiad annibynnol i helpu i ddeall y ffactorau sy'n cyfrannu at sefyllfa bresennol y Bwrdd Iechyd a nodi'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi gwelliant ac isgyfeirio yn y dyfodol.
Fel rhan o'r asesiad, siaradodd cynghorwyr annibynnol â thua 200 o gydweithwyr o bob cwr o'r sefydliad i ddeall eu profiadau a'u safbwyntiau.
Archwiliodd yr adroddiad arweinyddiaeth, diwylliant, ymddygiadau a llywodraethu, gan nodi meysydd lle mae angen gwelliant sylweddol tra hefyd yn cydnabod cryfderau o fewn y sefydliad ac ymrwymiad ei weithlu.
Canfyddiadau
Ymysg canfyddiadau'r adroddiad, fe ddaeth yr awduron, Yr Athro Em Wilkinson-Brice a Dr Pamela Johnston, i'r casgliad fod symudiad staff yn gymharol statig, ac roedd llawer o staff sydd heb gael profiad y tu hwnt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro neu hyd yn oed y tu hwnt i Gymru.
Roedd hefyd diffyg "ailosod" ar ôl pandemig Covid-19, ynghyd â cholli staff profiadol a dyrchafu staff dibrofiad yn gyflym o ganlyniad i hynny.
Wrth edrych ar faterion llywodraethu, roedd llywodraethu’r bwrdd yn dangos "diffyg llymder o safbwynt mecanweithiau sicrwydd o fewn ei is-bwyllgorau".
"Mae dealltwriaeth staff o reoli risgiau’n wan ac wedi’i dan-ddatblygu ar draws y bwrdd iechyd", ac mae llywodraethu clinigol "wedi’i dan-ddatblygu, ac nid yw ansawdd a diogelwch yn cael eu blaenoriaethu’n gyffredinol gan y byrddau clinigol," medd yr adroddiad.
Wrth droi at adnoddau dynol, dywed yr awduron fod "polisïau AD wedi cael eu gweithredu a'u rheoli mewn modd amrywiol dros gyfnod hir".
"Ar y cyfan, ceir methiant i ddal byrddau clinigol i gyfrif yn effeithiol. Fodd bynnag, mae gormod o ffocws ar brosesau a llawer o fiwrocratiaeth heb fawr o ffocws ar weithredu a chyflymder," meddai.
Dywed yr awduron hefyd fod "ymdeimlad o ddiffyg cyflymder a brys hyd yn oed wrth wynebu materion difrifol", gyda diffyg her ar bob lefel sy’n cael ei esbonio ar sail peidio â bod eisiau bod yn gas."
'Dryswch'
Ymysg y canfyddiadau eraill, roedd "ymdeimlad cryf o ddryswch, diffyg eglurder a diffyg gallu i unrhyw un ddisgrifio beth yw’r ‘cynllun unigol’ ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro" wrth wella o dan y cynllun ymyrraeth.
"Yn anffodus, roedd nifer o staff yn disgrifio ychydig iawn o hyder neu ddiffyg hyder o gwbl bod gan y bwrdd iechyd gynllun a fydd yn cyflawni ac yn symud y sefydliad allan o’r broses uwchgyfeirio," meddai.
Wrth ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd Chris Bown, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
"Rydym yn cymryd canfyddiadau'r adroddiad o ddifrif ac yn cydnabod bod nifer o feysydd sydd angen eu gwella - rhaid mynd i'r afael â'r rhain ar frys," meddai.
"Er bod gwaith eisoes ar y gweill mewn nifer o'r meysydd a nodwyd, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy. Mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr hyn y mae angen i ni ei wella a bydd yn helpu i lunio ein cynlluniau gwella parhaus, gan sicrhau eu bod yn parhau i ganolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau a gwella profiadau a chanlyniadau i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu.
"Rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu a chymryd camau gweithredu. Drwy gadw pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gallwn wneud gwelliannau parhaol i'n cleifion, ein cymunedau a'n staff."
Er y feirniadaeth, mae'r adroddiad yn cydnabod y cynnydd cadarnhaol a wnaed wrth fynd i'r afael â heriau ymddygiadol hirdymor, ac mae’n cyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel lle dymunol i weithio.
'Cyfle i fyfyrio'
Dywedodd Kirsty Williams, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'r adroddiad hwn yn gyfle pwysig i fyfyrio, dysgu a gwella. Er ei fod yn nodi meysydd lle mae angen newid, mae hefyd yn cydnabod ymrwymiad cydweithwyr ar draws ein sefydliad a'r cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud.
"Rydym yn ymrwymedig i fod yn sefydliad sy'n gwrando, yn dysgu ac yn gwella'n barhaus. Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid GIG Cymru, staff a rhanddeiliaid, byddwn yn canolbwyntio ar wneud y newidiadau sydd eu hangen i gryfhau ein diwylliant, ein harweinyddiaeth a'n dulliau llywodraethu, gan barhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i'n cymunedau.
"Mae newid ystyrlon yn cymryd amser, ymrwymiad ac ymdrech barhaus, ond rydym yn benderfynol o ddefnyddio canfyddiadau'r adroddiad hwn i adeiladu sefydliad cryfach ar gyfer y dyfodol."
Fe fydd y Gweinidog Iechyd yn cadeirio cyfarfod â’r bwrdd iechyd ym mis Tachwedd 2026 i adolygu'r cynnydd yn erbyn canfyddiadau'r adroddiad a'r fframwaith uwchgyfeirio ehangach.
"Rwyf yn disgwyl gweld gwelliannau parhaus ar draws pob maes o dan drefniadau ymyrraeth, a'r sicrwydd y gellir eu hymgorffori yn barhaus," meddai Mabon ap Gwynfor A.S.