Edrych ymlaen at gemau nos Wener yn y Novira Cymru Premier

Sgorio
Tlws Cymru Premier JD

Bydd holl gemau’r penwythnos yn cael eu cynnal nos Wener gyda pump o’r chwe clwb newydd yn chwarae gartref am y tro cyntaf y tymor hwn.

Dyma ragflas o'r holl gemau sydd i ddod ar y noson, gyda'r gynghrair ar ei newydd wedd:

 Nos Wener, 7 Awst

 Airbus UK Brychdyn v Met Caerdydd | Nos Wener– 19:45

Fe gafodd Airbus UK y dechrau perffaith i’w tymor ar ddydd Sadwrn drwy ennill 0-1 oddi cartref yn Hwlffordd diolch i gôl hwyr Joshua Stevenson.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Airbus yn yr uwch gynghrair ers Mawrth 2020 (Cfin 1-3 Air) ac roedd y rheolwr Mark Allen yn hynod o falch fod ei dîm wedi cadw llechen lân yn eu gêm gyntaf ar ôl esgyn.

Roedd hi’n benwythnos hyd yn oed gwell i Met Caerdydd sydd wedi saethu i frig y gynghrair ar ôl chwalu Treffynnon o 6-1 ar Gampws Cyncoed.

Jasper Payne oedd seren y sioe, yn sgorio hatric a chreu dwy gôl arall wrth i Met Caerdydd sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf yn y gynghrair ers Ebrill 2022 (Met 5-0 Cefn). 

Collodd Met Caerdydd o 1-0 ym maes awyr Brychdyn yn eu gêm gyntaf erioed yn y Cymru Premier nôl yn Awst 2016, ond ers yr ornest honno dyw’r myfyrwyr heb golli dim un o’u chwe gêm ganlynol yn erbyn Airbus UK (ennill 4, cyfartal 2).

Cambrian v Llansawel | Nos Wener – 19:45

Am y tro cyntaf ers 30 o flynyddoedd mi fydd yna gêm Uwch Gynghrair Cymru yn cael ei chwarae yn y Rhondda nos Wener yma.

Gorffennodd Cambrian yn ail yng Nghynghrair y De 2025/26 gan gadarnhau bod yna gynrychiolwyr o’r Rhondda yn chwarae yn yr uwch gynghrair am y tro cyntaf ers Ton Pentre yn 1996/97.

Yn eu gêm gyntaf yn yr haen uchaf fe frwydrodd Cambrian yn gadarn yn erbyn Y Barri, ond colli’n y pen draw ar ôl ildio’n hwyr ar Barc Jenner (Barr 2-1 Cam).

Gorffennodd Llansawel yn 8fed y tymor diwethaf, dau safle’n uwch na’r tymor blaenorol, ac mi fydd Andy Dyer a’i garfan yn gobeithio parhau i ddringo ac adeiladu y tymor hwn.

Enillodd Llansawel eu gêm agoriadol o 2-1 yn erbyn Rhydaman, a bydd y Cochion yn anelu i guro un arall o newydd-ddyfodiaid y de y penwythnos yma.

Mae Cambrian wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Llansawel, yn cynnwys buddugoliaeth o 1-0 yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf.

Caernarfon v Pen-y-bont | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)

Mi fydd Caernarfon a Pen-y-bont yn fwy na bodlon gyda’u canlyniadau ar y penwythnos agoriadol.

Llwyddodd Caernarfon i frwydro ‘nôl i ennill 1-2 oddi cartref yng Nghei Connah, tra bod Pen-y-bont wedi cadw’r Seintiau Newydd yn dawel gan sicrhau gêm ddi-sgôr yn erbyn y pencampwyr.

Ond gyda dim ond un buddugoliaeth (mewn 90 munud) yn eu 16 gêm gystadleuol ddiwethaf, bydd Pen-y-bont yn benderfynol o gipio’r triphwynt ar yr Oval.

Mae Pen-y-bont wedi cryfhau eu carfan yn yr wythnos ddiwethaf drwy arwyddo cyn-ymosodwr Nottingham Forest a Coventry City, Tyler Walker.

Dyw’r Cofis heb golli, nac heb ildio yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont (ennill 2, cyfartal 1).

Rhydaman v Bae Colwyn | Nos Wener – 19:45

Mae Rhydaman wedi sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf erioed ar ôl gorffen yn 3ydd yng Nghynghrair y De 2025/26.

Roedd hi’n berfformiad calonogol i dîm Wyn Thomas yn erbyn Llansawel ar y penwythnos agoriadol, ond colli bu hanes Rhydaman yn y pen draw (Lls 2-1 Aman).

Fe gafodd Bae Colwyn ddechrau cryf i’w tymor drwy ennill yn gyfforddus o 2-0 gartref yn erbyn Trefelin gyda Jordan Davies yn sgorio gôl gynta’r tymor wedi dim ond 73 eiliad ar Ffordd Llanelian.

Roedd Adam Davies hefyd ar y sgorfwrdd yn ei gêm gyntaf i’w glwb newydd, ac roedd yna lechen lân i golwr newydd y Gwylanod, Mark Halstead.

Mae gan y rheolwyr ddigonedd o brofiad o chwarae’n yr uwch gynghrair gyda cyfanswm o dros 1,000 o gemau rhwng Wyn Thomas a Michael Wilde yn y Cymru Premier, ond hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng Rhydaman a Bae Colwyn.

Trefelin v Llandudno | Nos Wener – 19:45 

Mae Trefelin wedi esgyn i’r Cymru Premier am y tro cyntaf erioed ar ôl ennill pencampwriaeth Cynghrair y De 2025/26 o dan arweiniad y rheolwr, Andy Hill.

Roedd hi’n ddechrau anodd i’r ymgyrch i Trefelin a gollodd o 2-0 oddi cartref ym Mae Colwyn, a bydd y bechgyn o Bort Talbot yn gobeithio am well perfformiad gartref yn erbyn un arall o glybiau Sir Conwy.

Wedi saith tymor yn yr ail haen mae Llandudno yn dychwelyd i’r uwch gynghrair eleni ar ôl sicrhau pencampwriaeth Cynghrair y Gogledd 2025/26 o dan arweiniad y rheolwr ifanc, Jordan Hadaway.

Yn 25 mlwydd oed, mae Hadaway yn un o’r gwŷr ieuengaf erioed i reoli yn y Cymru Premier, ond yr hen bennau ddaeth i’r adwy i Landudno ar y penwythnos agoriadol wrth i Marc Williams (37) a Mark Cadwallader (38) ddod oddi ar y fainc i sicrhau buddugoliaeth o 3-2 yn erbyn Y Fflint.

.Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb wrth i bencampwyr presennol y de a’r gogledd gyfarfod ar Barc Ynys.

Treffynnon v Cei Connah | Nos Wener – 19:45

Bydd gêm ddarbi gynta’r tymor yn cael ei chynnal yn Sir y Fflint nos Wener.

Ar ôl gorffen yn drydydd yng Nghynghrair y Gogledd 2025/26 mae Treffynnon wedi dychwelyd i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers 28 o flynyddoedd.

Ond roedd hi’n fedydd tân i Treffynnon yn y brif ddinas wrth i dîm John Haseldin gael eu trechu o 6-1 yn erbyn Met Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Gorffennodd Cei Connah yn ail yn nhymor 2025/26, ond colli bu hanes y Nomadiaid ar y penwythnos agoriadol, ac hynny gartref yn erbyn Caernarfon (Cei 1-2 Cfon).

Mae hi wedi bod yn haf o newidiadau mawr yng Nghei Connah gyda 15 chwaraewr yn gadael wrth i John Disney barhau i osod ei stamp ei hun ar y garfan.

Hon fydd yr ornest gystadleuol gyntaf rhwng y clybiau ers i Gei Connah guro Treffynnon o 1-0 yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG ym mis Medi 2022, ond dyw Treffynnon heb guro’r Nomadiaid ers 31 o flynyddoedd.

Y Fflint v Y Barri | Nos Wener – 19:45

Gorffennodd Y Fflint yn 10fed y tymor diwethaf gan osgoi’r cwymp o drwch blewyn, ac er i’r Sidanwyr gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 72 o flynyddoedd roedd hi’n dymor digon siomedig yn dilyn y golled o 3-0 yn erbyn Caernarfon yn y ffeinal.

A dyw’r tymor newydd heb ddechrau ar nodyn cadarnhaol i dîm Lee Fowler chwaith wrth iddyn nhw golli o 3-2 oddi cartref yn erbyn y newydd-ddyfodiaid, Llandudno.

Roedd hi’n dymor rhagorol i’r Barri a orffennodd yn eu safle uchaf ers saith mlynedd (3ydd), a chodi Cwpan y Cynghrair am y tro cyntaf ers chwarter canrif, ond mae hi wedi bod yn haf o newidiadau mawr i’r Dreigiau sydd wedi colli pedwar o’u chwaraewyr gorau yn ystod y ffenestr drosglwyddo.

Mae’r ymosodwyr, Ieuan Owen ac Ollie Hulbert wedi gadael, yn ogystal â phrif grêwr Y Barri y tymor diwethaf, Robbie Willmott, a’r amddiffynnwr cadarn Ben Margetson.

Ond er yr holl newidiadau fe lwyddodd Y Barri i sicrhau triphwynt yn erbyn Cambrian ar y penwythnos agoriadol, gyda’r capten Callum Sainty yn sgorio ac ysbrydoli ei dîm ar Barc Jenner (Barr 2-1 Cam).

Fe wnaeth y timau gyfarfod ddwywaith yn rhan gynta’r tymor diwethaf, ac fe orffennodd y ddwy gêm yn ddi-sgôr.

Y Seintiau Newydd v Hwlffordd | Nos Wener – 19:45

Ar ôl ennill pencampwriaeth y Cymru Premier JD am y 18fed tro yn eu hanes, ac am y pumed tymor yn olynol, bydd cewri Croesoswallt yn ffefrynnau clir i godi’r tlws unwaith eto’r tymor yma.

Ond fe gafodd y Seintiau eu tawelu gan Pen-y-bont ar y penwythnos agoriadol gyda’r gêm ddi-fflach yn gorffen yn ddi-sgôr yn Stadiwm Dragonbet.

Fe gafodd blaenwr y Seintiau, Jordan Williams dymor arbennig gan gipio hatric o wobrwyon, sef Chwaraewr y Tymor, Gôl y Tymor a’r Esgid Aur – a daeth pump o’i 26 gôl gynghrair yn erbyn Hwlffordd.

Roedd hi’n ymgyrch gymysglyd i Hwlffordd y tymor diwethaf gyda’r clwb yn gorffen yn 7fed ar ôl llwyddo i orffen yn 3ydd a chyrraedd Ewrop y flwyddyn flaenorol.

Daeth canlyniad mwyaf annisgwyl y penwythnos agoriadol o Ddôl y Bont, wrth i Hwlffordd golli o 1-0 gartref yn erbyn Airbus UK.

Mae’r Seintiau wedi ennill eu 12 gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, a dyw’r Adar Gleision m’ond wedi ennill unwaith yn y 32 gornest ddiwethaf rhwng y timau (cyfartal 4, colli 27).

Llun: CBDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.