‘Dw i ddim yn AI’ meddai dysgwr sy'n dweud iddi yrru nofel at wobr Daniel Owen

‘Dw i ddim yn AI’ meddai dysgwr sy'n dweud iddi yrru nofel at wobr Daniel Owen

Mae dysgwr Cymraeg wedi galw ar yr Eisteddfod i sicrhau bod sylwadau beirniaid yn gleniach ar ôl i feirniaid awgrymu ar lwyfan y Pafiliwn ei bod wedi defnyddio AI i ysgrifennu nofel.

Dywedodd Romy Wood, sy’n awdur cyhoeddedig yn Saesneg, wrth Newyddion S4C fod y feirniadaeth ar ei nofel gyntaf yn Gymraeg wedi’i brifo.

Roedd beirniaid cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod ddydd Mawrth wedi dweud eu bod nhw’n amau mai AI oedd wedi ysgrifennu ei nofel Y Dderwen, a gyflwynwyd dan y ffugenw Lithodora.

Dywedodd Romy Wood nad oedd ganddi unrhyw Gymraeg o gwbl bedair blynedd yn ôl, ond nad oedd yn wir ei bod wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial.

Roedd angen i’r Eisteddfod “feithrin” awduron os oedden nhw am iddyn nhw barhau i gyfrannu, meddai.

“Dwi i ddim yn meindio dod yn olaf,” meddai.

“Ond erbyn y flwyddyn nesaf rydw i eisiau strategaeth mewn lle i sicrhau bod ni ddim yn sefyll ar y llwyfan ac yn annog y gynulleidfa i chwerthin am rywun.

“Gallwn i fod wedi bod yn eistedd yn y gynulleidfa, gyda plant, gyda teulu, yn rywun ifanc - dwi’n ganol oed - ond falle swn i’n rywun ifanc yn sgwennu nofel gyntaf.

“Flwyddyn nesaf, ydan ni’n mynd i parchu ein gilydd? Does neb yn haeddu cael eu galw yn shameful.

“Mae pobl creadigol yn eitha’ bregus. Roedd hi yn anghwrtais iawn, iawn amdanaf. Ac roedd y ddau arall yn chwerthin amdanaf fi, ar y teledu, yn y babell bwysig. 

“Dyw e ddim yn addas nac yn barchus o gwbl. Da ni ddim yn ymddwyn fel ‘na yng Nghymru.”

Wrth ymateb, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod beirniaid yn annibynnol ond eu bod nhw'n galw arnyn nhw i gyflwyno adborth "mewn ffordd barchus, ac adeiladol".

Dywedodd y beirniaid Meinir Wyn Edwards, Lleucu Roberts a Llwyd Owen ei fod yn "ddrwg calon" ganddyn nhw am "beri gofid," ond gan ychwanegu fod "y tri ohonom yn unfarn mai rhyw fath o ddeallusrwydd artiffisial oedd wedi creu'r gwaith".

‘Bregus’

Wrth draddodi'r feirniadaeth ddydd Mawrth, dywedodd un o’r beirniaid, Meinir Wyn Edwards, ei fod yn “gywilyddus” bod y nofel yr oedd hi a'r beirniaid eraill yn amau oedd wedi ei hysgrifennu gan AI wedi ei gyrru i’r gystadleuaeth.

Dywedodd fod y beirniaid yn “amau mai peiriant deallusrwydd artiffisial sydd wedi creu'r nofel”.

Ond dywedodd awdur y nofel, Romy Wood, nad oedd hi “rili ddim yn gwybod” pam bod y beirniaid wedi meddwl ei bod hi’n AI.

“Nes i jesd sgwennu nofel,” meddai. “Dwi ddim wedi defnyddio unrhyw AI.

“Ond dwi’n dysgwr a dwi’n gwybod bod dysgwyr yn gallu swnio’n od i bobl mamiaith.

“Mae hynny’n iawn gydag unrhyw iaith dwi’n siŵr – da chi’n swnio bach yn od, pam chi’n sgwennu mewn iaith ychwanegol.

“Oni’n disgwyl pobl yn dweud mod i’n swnio kind of torri fyny a ddim yn rhugl. Ond o’n i ddim yn disgwyl cael fy cyhuddo o fod yn AI.

“Petawn i wedi defnyddio AI, fe fyddai yna plot a pethau, dim rywbeth arbrofiadol.

“Os ti’n gofyn i AI sgwennu rywbeth fel ti, mae AI yn sgwennu rywbeth eitha obvious. Dim rywbeth mwy literary.”

Ymateb

Dywedodd y beirniaid Lleucu Roberts, Meinir Wyn Edwards a Llwyd Owen eu bod yn derbyn canllawiau parch yr Eisteddfod.

"Mae'n ddrwg calon gennym ein bod wedi peri gofid, ond roedd y tri ohonom yn unfarn mai rhyw fath o ddeallusrwydd artiffisial oedd wedi creu'r gwaith," medden nhw.

"Braf gweld dysgwyr yn hogi eu crefft ar gystadlaethau'r Eisteddfod. Rhyw ddydd, diau y gwelwn yr awdures newydd hon i'n hiaith yn gwisgo'r Fedal.

"Llongyfarchiadau gwresog iawn i Rebecca Thomas ar greu nofel wirioneddol arbennig."

Wrth ymateb dywedodd yr Eisteddfod fod y beirniaid "yn gwbl annibynnol, mae’n bwysig i ni fel sefydliad barchu’r annibyniaeth honno".

"Ar yr un pryd, rydym am weld adborth yn cael ei gyflwyno mewn ffordd barchus, ac adeiladol, ac ni fyddwn byth am i unrhyw gystadleuydd deimlo bod y profiad wedi’i ddifetha gan y ffordd y cafodd yr adborth ei roi," medden nhw.

"Mae annog dysgwyr i gymryd rhan yn llawn yn ein cystadlaethau hefyd yn egwyddor hollbwysig i ni, fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi twf y Gymraeg ac i groesawu siaradwyr newydd i’n cystadlaethau.

"Byddwn yn rhannu’r adborth â’r panel o feirniaid ac yn ei ystyried wrth barhau i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bawb sy’n cymryd rhan."

Wrth siarad ar y Maes, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses wrth Newyddion S4C: “Mae yna ganllawiau yn bodoli a beth da ni’n gofyn ydi eu bod nhw’n dilyn ein polisi parch ni.

“Mae angen parchu bob ymgeisydd fel eu bod nhw’n teimlo yn gyfforddus wrth glywed y feirniadaeth.

“Mae annibyniaeth y beirniaid wrth gwrs yn rhan ganolog o’n prosesau ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.