Newyddion S4C

Amaethwr yn ymateb i feirniadaeth ar ôl croesawu Jacob Rees-Mogg i'w fferm

Amaethwr yn ymateb i feirniadaeth ar ôl croesawu Jacob Rees-Mogg i'w fferm

Mae’r amaethwr a’r darlledwr, Gareth Wyn Jones o Lanfairfechan wedi ymateb i sylwadau negyddol ar-lein yn dilyn ymweliad arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, â’i fferm.

Wythnos diwethaf, roedd y gwleidydd wedi ymweld â’r fferm, Distyllfa Abergwyngregyn a Zip World ym Methesda fel rhan o’i daith o amgylch y gogledd.

Dywedodd Gareth Wyn Jones fod yr ymweliad yn “hollbwysig” iddo allu dangos y ffordd roedd ef a nifer o ffermwyr yn ardal y Carneddau yn byw a gweithio.

Ond yn ôl Mr Jones, cafodd sawl sylwad negyddol a sarhaus gan bobl ar-lein yn dilyn yr ymweliad.

Dywedodd un cyfrif ar Twitter: “Pam ti yn rhoi amser i hwn a bod yn positif amdano [?].

“Arfar meddwl fod gen ti oleiaf deimlad am be [sy’n] mynd ymlaen ond ma hyn yn neud i chdi edrych fel clown, hypocrite a bradwr.”

Dywedodd cyfrif arall ar Twitter: “Dallt bod angen siarad hefo pob ‘ochr’ ond un problem hefo Rees Mogg yn dod i Gymru o ‘ddysgu’ am amaeth ydy bod y boi yn erbyn datganoli a mae amaeth wedi ei ddatganoli.

“Dydy’r boi ddim yn hoff o Gymru, na’r Gymraeg.”

'Dwi ddim wedi arfer cael ymateb mor gas â hyn'

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Gareth Wyn Jones ei fod yn “siomedig” fod rhai o’r “Cymry Cymraeg” wedi gwrthwynebu ei ddewis i groesawu Mr Rees-Mogg i’w fferm.

“Fo naeth ofyn i ddod yma,” dywedodd wrth Newyddion S4C.

“Ddoth nhw yma a nes i'w croesawu fel byswn ni’n gwneud gydag unrhyw berson arall,” ychwanegodd.

Dywedodd Gareth Wyn Jones iddo gael ei alw’n “fradwr”.

“Fel Cymro i’r carn, mae’n siwr bod hwn wedi brifo mwy," meddai. 

“Cychwynnodd y sylwadau yn syth, ac roedd rhai yn reit gas. Dwi ddim wedi arfer cael ymateb mor gas â hyn, yn enwedig gan y Cymry Cymraeg.”

'Ma hynna’n rhan o be dan ni’n neud'

Er bod Gareth Wyn Jones yn cydnabod fod Jacob Rees-Mogg yn “ddyn dadleuol” a bod polisïau amaethyddol wedi eu datganoli yng Nghymru, dywedodd y ffermwr fod angen cynnal trafodaethau gyda phobl wahanol.

“Mae o’n foi reit dadleuol, on os 'da ni’m yn siarad ac yn agor ein drysau i’r bobl ‘ma, wneith nhw byth wrando arnon ni," dywedodd. 

“Ges i ofyn gwestiynau iddo fo, a ma hynna’n rhan o be dan ni’n neud,” ychwanegodd.

“Os 'da ni’m yn cael y cyfle i roi’n ochr ni drosodd, di’r bobl ma byth yn mynd i wrando arnom ni.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Mr Jones dderbyn sylwadau sarhaus ar-lein. Mae’n cyfaddef ei fod wedi rhannu safbwyntiau “dadleuol” am figaniaeth, er enghraifft.

Ychwanegodd Mr Jones: “Mae o wedi croesi fy meddwl i [stopio rhannu ei safbwyntiau] ond dwi’n meddwl os ‘di rhywun yn rhoi’r gorau iddi, ma’r bobl ma ‘di curo. Dydy hynna ddim yn iawn, dydy hynna ddim yn deg.”

“Mae o yn brifo, yndi, na’ i ddim deud clwydda’ wrthoch chi.”

Llun: Gareth Wyn Jones

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.