'Pethau ar y gweill' i'r Super Furry Animals ar ôl i gigiau'r haf ddod i ben
'Pethau ar y gweill' i'r Super Furry Animals ar ôl i gigiau'r haf ddod i ben
Mae'r band Super Furry Animals wedi dweud bod "pethau ar y gweill" wedi i'w gigiau dros yr haf ddod i ben.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C dywedodd drymiwr y band, Dafydd Ieuan fod y band yn gobeithio chwarae mwy o gigiau yn y dyfodol.
"Ma’ ‘na betha’ ar y gweill, ond dim wedi cadarnhau," meddai.
"So, ‘na gyd, mor bell fedran ni ’ddeud rili ar y funud."
Bydd y band yn dod gyda’u steil unigryw a lliwgar i Lwyfan y Maes Eisteddfod y Garreg Las nos Sadwrn wrth iddyn nhw gloi'r noson.
Y tro diwethaf i'r band chwarae yn y brifwyl oedd yn Llandeilo yn 1996.
'Gig cynta' yn y Gymraeg yn unig'
Pan chwaraeodd y band yn yr Eisteddfod 30 mlynedd yn ôl roedden nhw wedi penderfynu perfformio rhai o'u caneuon Saesneg, ond trwy chwibanu yn lle canu'r geiriau.
Ond eleni fe fydd y band yn chwarae holl ganeuon y set yn Gymraeg, sef y tro cyntaf iddyn nhw neud.
"Mae o gig Cymraeg yn unig cynta’ ni d’mel," meddai Dafydd.
"Ma’ di cymryd 30 mlynadd i ni sortio fo allan, ‘dan ni wastad ’di canu yn ddwyieithog, ond d’mel ma’ na rai caneuon ‘dan ni ’rioed ‘di chwarae’n fyw o’r blaen."
Fe fydd holl ganeuon albwm poblogaidd Super Furry Animals, Mwng yn cael ei berfformio'n llawn, yn ogystal â chan nad yw'r band erioed wedi chwarae o'r blaen.
"O’n ni ‘di neud gig pythefnos yn ôl yn Llangollen a tro yna ni ‘di chwarae Mwng, reit trwy," meddai Huw 'Bunf' Bunford.
"Felly bydd ni’n neud hwnna eto a ni’n chwarae un cân ni erioed wedi chwarae o’r blaen."
Dros y misoedd diwethaf mae'r Super Furries wedi chwarae yng Nghaerdydd, Llundain, Llandudno a Llangollen, a byddan nhw hefyd yn chwarae yn Glasgow, Dulyn, Caerwysg a Salisbury.
Mae disgwyl torf fawr yn yr Eisteddfod ar gyfer y gig nos Sadwrn, ac mae aelodau'r band yn edrych ymlaen at chwarae yn y brifwyl am y tro cyntaf "ers amser maith".
"Dwi'n falch bod hi'n braf neu fysa hyn yn nightmare," meddai Dafydd.
"Ond edrych ymlaen i chwarae, mae 'di bod yn amser maith yndi?"
Ychwanegodd Bynff: "Dwi ddim yn cofio lot o'r gig diwetha', ond cofio bod e mewn pabell.
"O'dd y gynulleidfa yn mynd fyny a edrych lawr arnon ni.
"So na gyd dwi'n cofio, a bod ni 'di dod a'r tanc hefyd."
Mae’r band wedi hawlio'r penawdau dros y blynyddoedd am eu tactegau hyrwyddo unigryw. Yn eu plith, y tanc eiconig a ymddangosodd ar Faes Eisteddfod Llandeilo, 1996.
Ni fydd y tanc glas yn dychwelyd i'r maes eleni, ond mae'r band wedi addo y bydd y perfformiad yn un "unigryw a rhywbeth na clywsoch erioed o’r blaen ac ella na ‘newch chi byth eto."
Bydd sawl band arall yn perfformio nos Sadwrn cyn i'r Furries gamu i'r llwyfan hefyd, ac mae un ohonynt yn ffefrynnau mawr.
"Ma' 'na fand sy'n chwarae heno 'ma, Pys Melyn ni'n ffans mawr o.
"Dwi mynd i adael pobl allan felly dwi'm yn mynd i ddeud mwy, ond ma' 'na lot o bandiau Cymraeg da nag oes?"