Tân mawr ar ystâd ddiwydiannol yng Ngwent

01/08/2026
Tân Caerleon

Mae criwiau tân wedi bod yn ymateb i “dân mawr” ar ystâd ddiwydiannol yng Ngwent.

Cafodd achubwyr eu galw i Ystâd Fasnachol Star yng Nghaerllion, ger Casnewydd, am 02:42 fore Sadwrn yn dilyn adroddiad o dân.

Roedd 10 injan dân o’r ardal wedi ymateb i’r digwyddiad, gyda chriwiau hefyd yn defnyddio platfform awyrol ac ystod o gyfarpar.

Cafodd y safle ei wagio gyda phob person yn ddiogel.

Roedd y Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi annog pobl i osgoi’r ardal tra bod eu hymdrechion i ddiffodd y tân yn parhau.

Cafodd trigolion lleol gyngor i gau eu ffenestri a drysau er mwyn diogelu rhag y mwg.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân toc wedi 16:00 brynhawn ddydd Sadwrn eu bod wedi gadael y safle.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân: "Mae'r digwyddiad wedi'i rheoli'n llwyddiannus. 

"Er bod y prif waith diffodd tân wedi'i gwblhau, bydd criwiau'n parhau i fonitro'r safle. 

"Disgwylir i'r tân barhau i fudlosgi am beth amser."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.