Cerdd dant: Chwe aelod o’r un teulu i gystadlu yn erbyn ei gilydd yn yr Eisteddfod

Teulu Rhian Huws

Bydd chwe aelod o'r un teulu yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yng nghystadleuaeth y corau cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yr wythnos nesaf.

Bydd Rhian Huws, 73 oed, o Fynydd Caerffili, ei thair merch a'i dwy ferch yng nghyfraith yn cynrychioli pedwar côr gwahanol yn y gystadleuaeth Côr Cerdd Dant.

Mae Rhian, ei merch hynaf Gwenan Thomas, 48 oed, a'i merch yng nghyfraith Lisa Huws, 43 oed, yn aelodau o Gôr Cerdd Dant Merched Ystum Tâf dan arweiniad Delyth Medi ac Owain Siôn Williams.

Bydd ei hail ferch, Elen Roberts, 43 oed, sy'n byw yn ardal Tal-y-bont, yn cystadlu gyda Chôr Lleisiau Gwyddno dan arweiniad Eleri Roberts.

Bydd Carys Davies, 41 oed, ei merch ieuengaf sy'n byw yn Llandeilo, yn rhan o Gôr Lleisiau Tywi, dan arweiniad Nia Clwyd.

Yn olaf, bydd ei hail ferch yng nghyfraith, Manon Huws, 38 oed, yn cystadlu gyda Chôr Tôn Teg, sy'n cael ei arwain gan Gavin Ashcroft.

Bydd aelodau'r teulu yn cynrychioli pedwar o'r chwe chôr fydd yn cystadlu ar faes y Brifwyl yn Llantwd nos Wener.

‘Plentyndod cerddorol’

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan bwysig o fywyd y teulu erioed, yn ôl Rhian, a oedd yn athrawes gerdd.

"Oedden ni’n gwrando ar lot o gerddoriaeth, yn enwedig pan oedden ni yn y car," meddai wrth Newyddion S4C.

"Oedden ni’n mynd i’r gogledd yn aml achos dwi’n dod o Ruthun yn wreiddiol, ac roedd Dafydd, fy niweddar ŵr, yn dod o ardal Bow Street, felly oedden ni’n mynd i ymweld â teulu lot. Wedyn roedd 'na wastad ganu yn y car!"

Dywedodd Elen fod ganddi atgofion o blentyndod "cerddorol, hapus".

"Oedden ni i gyd yn dysgu offerynnau, ac roedd mam yn chwarae’r organ yn y capel," meddai.

"Mam sydd wedi ysbrydoli ni gyd i licio canu, canu cerdd dant ac ymuno efo corau.

"Oedd hi wastad yn dweud wrtha ni, os ti’n cael cynnig i neud rhywbeth, wastad dweud ie.”

Image
Teulu Rhian Huws
Y teulu ifanc

Mae Carys yn dweud ei bod yn ymdebygu i'w mam erbyn hyn.

"Dwi'n teimlo bo' fi'n troi i mewn i Mam, achos pan o'n i'n fach oedd Mam yn ymarfer canu rownd y tŷ," meddai.

"A dwi'n teimlo bo' fi'n neud yr un peth rŵan, yn canu nodau wrth blygu dillad - mae'r plant yn edrych arna i fatha, 'be' ti'n neud Mam?!'"

Mae Elen a Carys wedi canu mewn sawl côr cerdd dant dros y blynyddoedd, ac mae eu chwaer yng nghyfraith Manon hefyd yn brofiadol.

"Roedd Elen a fi yn arfer canu yn Côr Ger y Lli pan oedden ni'n Aberystwyth gyda'n gilydd," meddai Carys.

"Felly rydan ni wedi cystadlu efo'n gilydd, ond fydd o'n beth rhyfedd iawn cystadlu yn erbyn ein gilydd!"

Image
Teulu Rhian Huws
Rhian gyda'i phlant: Aled, Carys Gwenan, Geraint ac Elen

Fodd bynnag, bydd canu cerdd dant yn brofiad newydd i Gwenan a Lisa.

"Dwi erioed wedi ystyried canu cerdd dant o’r blaen," meddai Gwenan.

"Ond o’n i’n meddwl mae hwn ond yn dri mis cyn y Steddfod, mae’n haws committio i rywbeth tri mis na rhywbeth trwy’r flwyddyn - a dwi wrth fy modd!"

Ychwanegodd Gwenan ei bod yn teimlo ychydig o nerfusrwydd cyn y gystadleuaeth.

"Dwi heb ganu efo unrhyw gôr ar lwyfan yr Eisteddfod ers cael y plant, ac mae’r ferch hynaf yn 18 oed erbyn hyn," meddai.

"Ond mae ‘na fwy o gyffro na nerfusrwydd, dwi’n gwybod bod ni wedi paratoi’n dda ac y byddan ni’n barod amdani."

Cariad at gerdd dant

Roedd Rhian yn aelod o Gôr Cerdd Dant Merched y Garth am flynyddoedd cyn iddo ddod i ben yn 2012.

"Dwi wrth fy modd yn canu cerdd dant, mae’n dyfnhau ystyr y farddoniaeth a ‘da ni’n cael cyfle i ddysgu barddoniaeth arobryn ar yr alawon cerdd dant," meddai.

Yn y gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, bydd y corau’n canu detholiad o’r awdl Y Gwanwyn gan Dic Jones.

"Mae canu cerdd dant yn brofiad gwefreiddiol i fi achos ‘da ni’n dyfnhau ystyr y farddoniaeth wrth bwysleisio ar y geiriau," meddai Rhian.

"Mae ‘di bod yn bleser pur i mi gael ymuno â chôr cerdd dant eto ar ôl bwlch o rai blynyddoedd.

"Ac fe fydd yn ddiddorol i ni ar y noson i gael clywed y detholiadau a dehongliadau gwahanol gan y corau eraill."

Image
Teulu Huws
Gwenan, Elen, Lisa, Manon a Carys

Yn ôl Elen, yr Eisteddfod Genedlaethol yw "uchafbwynt calendr blynyddol" y teulu.

"'Da ni gyd wedi cael ein magu yn yr Eisteddfod, y pump ohona ni," meddai.

"Mae gan Mam 14 o wyrion, felly ‘da ni i gyd yn mwynhau cwrdd fyny am wythnos Eisteddfod gyfan.

"Hwnna ydi uchafbwynt calendr blynyddol ni fel teulu, felly bydd e’n hwyl bod ni’n cystadlu yn erbyn ein gilydd y tro hwn!"

Image
Teulu Rhian Huws
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn 'uchafbwynt y calendr blynyddol', yn ôl Elen

Dywedodd Rhian ei bod yn teimlo’n "browd iawn" ei bod wedi llwyddo i drosglwyddo ei hoffter o gerdd dant i’w phlant.

"Mae’n rhaid i ni ei gwarchod hi ar gyfer y genhedlaeth nesaf, achos ‘chydig iawn o bobl sydd i gael sy’n gallu gosod cerdd dant ac yn gallu hyfforddi côr," meddai.

"'Da ni’n teimlo’n falch iawn bo’ ni’n cael y cyfle i neud hyn, ac wrth gwrs mae’n achlysur arbennig oherwydd bod aelodau’r teulu mewn pedwar côr gwahanol!|

Doedd yr un aelod o'r teulu am ddyfalu pa gôr fydd yn dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth.

Ond beth bynnag fydd y canlyniad, mae'n debygol y bydd cryn ddathlu ar y maes.

"Os ydi rhywun o dy deulu di'n ennill, ti'n teimlo fel ti 'di ennill," meddai Carys.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.