Ieuenctid y Garreg Las yn gadael eu marc ar baratoadau'r Eisteddfod
Ieuenctid y Garreg Las yn gadael eu marc ar baratoadau'r Eisteddfod
Mae pobl ifanc gweithgar ardal y Garreg Las wedi gadael eu marc ar baratoadau yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd un person ifanc ei bod yn “bwysig iawn” i bobl ifanc i fod yn rhan o'r gwaith o drefnu a chodi arian ar gyfer y Brifwyl.
Yn ôl Begw Fussell sydd yn 20 mlwydd oed ac wedi bod yn rhan o bwyllgor apêl lleol Efailwen yn Sir Gâr, mae’n bwysig i bobl ifanc allu “rhoi twist ifanc” ar yr Eisteddfod.
“Ma’ lot o bobl hen ac mae’n iawn ond fi’n meddwl gyda’r Eisteddfod, ma’ ishe denu pawb – ma’ rhwbeth ‘na at ddant pawb," meddai.
“Ma’ ‘da chi Maes B a phethe’ felly ma rhaid dod â phobl ifanc mewn i gadw’r traddodiadau yma i fynd.”
Wrth roi cyngor i bobl ifanc, dywedodd fod “rhaid ti rhoi dy law i bopeth a pheidio gwed ‘na’ – fi’n gwybod ma’ rhai pethe bizzare yn dod lan".
“Fi yn falch iawn ac mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan o bob agwedd – o’r addurno, i’r codi arian i’r cystadlu wythnos nesa.”
Eleni, Fflur James, sy'n 21 oed, yw Cadeirydd Pwyllgor ‘Maes B’ ac yn ferch sydd yn byw yn Llantwd - dafliad carreg o faes Eisteddfod y Garreg Las.
“Dwi’n rhoces [merch] o Lantwd a dwi’n gallu gweld perci’r [caeau] Eisteddfod o fy ystafell wely felly wedd e’n anochel bo’ fi’n mynd i fod ishe bod yn rhan o ddathliadau’r ŵyl yn 850 mlwydd oed," meddai.
“Mae gwneud hynny law yn llaw â ffrindie’, cymdogion, trigolion lleol sydd wedi ein magu ni fel plant y Garreg Las, mae rhoi rhywbeth bach iawn yn ôl a bod yn rhan o’r brethin cyfoethog sydd gyda ni yma.”
Caryl Griffiths, 31, yw Ysgrifennydd pwyllgor apêl lleol Llangrannog ac yn ôl hi, mae “mor bwysig ein bod ni’n gwrando ar lais ein hieuenctid ni achos ‘na beth yw ein dyfodol ni".
Ychwanegodd “os ni ddim yn denu nhw [pobl ifanc], wedyn bydde’r Eisteddfod ddim yn llwyddiannus".
Hefyd ar bwyllgor apêl lleol Llangrannog mae Dewi Ifan sydd yn 15 mlwydd oed a dywedodd wrth Newyddion S4C fod bod yn rhan o’r Eisteddfod eleni yn rhywbeth “hanesyddol".
“Yn yr ysgol, beth dwi ‘di gweld yw bod lot o blant ddim ‘di clywed am Eisteddfod o’r blaen, ddim ‘di bod i’r ‘Steddfod a nawr ma’ nhw’n cael y cyfle i ddod i’r ‘Steddfod yn yr ardal yma," meddai.
Mae Tomos Hopkins yn diwtor Dysgu Cymraeg yn Hwlffordd. Ef yw Cadeirydd Pwyllgor ‘Maes D’ eleni ac wedi bod yn rhan o bwyllgor apêl lleol Hwlffordd.
“Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn gyda ni yn cynnal gwahanol ddigwyddiadau i godi arian a chodi ymwybyddiaeth at yr ŵyl gan ein bod ni mewn ardal falle lle bod llai o boblogaeth yn siarad Cymraeg," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn “her” y gyrraedd y cymunedau di-Gymraeg hynny ond “y prif beth yw ein bod ni’n rhoi croeso iddyn nhw i ddangos bod yr Eisteddfod yma i bawb.”
