Mae trefnydd angladdau wedi ei garcharu am 20 mlynedd am droseddau yn ymwneud a methu â chladdu neu amlosgi cyrff.
Cafodd Robert Bush, 48, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Hull ddydd Gwener am 67 o droseddau dros gyfnod o 12 mlynedd.
Clywodd y llys fod Bush wedi cam-drin ymddiriedaeth teuluoedd oedd yn galaru “ar raddfa ddiwydiannol bron”.
Roedd y troseddau’n cynnwys cadw cyrff am fisoedd ar ôl y dylent fod wedi eu hamlosgi, rhoi’r lludw anghywir i deuluoedd a dwyn rhoddion elusennol a gasglwyd mewn gwasanaethau angladdol.
Fe wnaeth hefyd werthu cynlluniau angladd twyllodrus i fwy na 220 o bobl, gan gadw dros £500,000 heb wneud unrhyw drefniadau ar eu cyfer.
Clywodd y llys ddatganiadau gan fwy na 200 o ddioddefwyr yn ystod gwrandawiad dedfrydu pum niwrnod.
Roedd yn eu plith berthnasau 31 o bobl y daethpwyd o hyd i’w cyrff ym musnes Legacy Independent Funeral Directors yn Hull, er y dylent fod wedi eu hamlosgi.
Dywedodd mwy na 50 o bobl hefyd eu bod wedi darganfod eu bod wedi cael y lludw anghywir ar ôl i’r heddlu chwilio’r safle.
Daeth troseddau Bush i’r amlwg ym mis Mawrth 2024, ar ôl i weithiwr ddweud wrth berchnogion busnes angladdau arall fod cyrff wedi bod ar y safle “ers blynyddoedd”.
Daeth yr heddlu o hyd i gyrff heb eu gorchuddio a rhai ohonynt wedi pydru i wahanol raddau, ynghyd â lludw mewn bocsys wedi llwydo ac ar y llawr.
Roedd Bush hefyd wedi cadw rhoddion a gasglwyd ar gyfer 12 elusen, gan gynnwys Cymorth Canser Macmillan, yr RNLI a Byddin yr Iachawdwriaeth.
Roedd wedi cyfaddef i’r 67 o droseddau, gan gynnwys 30 cyhuddiad o atal claddedigaeth gyfreithlon a phriodol.