Teyrnged i ddyn o Faesteg a fu farw ar ôl ymosodiad honedig yn Nhwrci
Mae teulu dyn o Faesteg a fu farw ar ôl ymosodiad honedig yn Nhwrci wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Scot James, 34 oed, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddydd Sul, 26 Gorffennaf.
Cafodd ei hedfan yn ôl i Gymru o Dwrci ar 24 Gorffennaf ar ôl ymosodiad honedig a ddigwyddodd yn gynharach ym mis Gorffennaf.
Mae'r awdurdodau yn Nhwrci, gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, yn ymchwilio i'r ymosodiad honedig.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod ei farwolaeth wedi "torri ein calonnau".
“Ein hannwyl Scot oedd canolbwynt ein teulu ac roedd yn cael ei garu’n fawr gan bawb oedd yn ei adnabod," meddai'r teulu.
"Roedd yn fab, ŵyr, brawd, partner, tad, ewythr a ffrind ymroddedig, a chyffyrddodd ei garedigrwydd a’i deyrngarwch â nifer fawr o fywydau.
“Fel teulu, mae ei golled wedi torri ein calonnau. Ni all unrhyw eiriau fynegi’r boen yr ydym yn ei brofi na’r gwagle y mae ei farwolaeth wedi’i adael yn ein bywydau.
"Byddwn yn trysori’r amser a dreuliasom gydag ef ac yn ei gadw’n agos yn ein calonnau bob amser.
"Er i fywyd Scot gael ei gymryd yn llawer rhy gynnar, ni fydd y cariad a roddodd, a’r effaith a gafodd ar y rhai o’i gwmpas, byth yn cael eu hanghofio."
Ychwanegodd y teulu eu bod nhw'n gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.