'Colled enfawr:' Yr artist Kevin Sinnott wedi marw'n 78 oed
Mae'r artist Kevin Sinnott wedi marw yn dilyn cyfnod o waeledd. Roedd yn 78 oed.
Roedd ei ddarluniau lliwgar o gymeriadau cymoedd y de yn hynod o boblogaidd.
Roedd wedi arddangos ei waith yn eang, yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol.
Cafodd ei farwolaeth ei chyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ei deulu ddydd Gwener.
Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Roedd yn ŵr, yn dad, yn daid, yn frawd ac yn ewythr annwyl i'w deulu.
"Cyffyrddodd â bywydau llawer yn ystod ei 78 mlynedd, yn enwedig trwy ei waith celf mynegiannol a oedd yn ffynhonnell ddiddiwedd o lawenydd i'w deulu, ei ffrindiau a chasglwyr fel ei gilydd.
"Mae'r teulu'n dymuno diolch i bawb a'i hadwaenai ac a'i cefnogodd trwy gydol ei fywyd a'i salwch diweddar."
Gweledigaeth o Gymru
Disgrifiodd yr artist Luned Rhys Parri ei farwolaeth fel "colled enfawr i'r byd celf yng Nghymru".
Mewn teyrnged iddo, dywedodd oriel Ffin y Parc yn Llandudno: "Ers iddo ddod i amlwg gyntaf yn yr 1980au, cyflwynodd i'r byd weledigaeth o Dde Cymru - lle balch a hardd, ond hefyd wedi'i farcio gan greithiau. Byd a oedd yn ddiwydiannol ac yn wyllt ar yr un pryd.
"Yn ystod gyrfa hir a llwyddiannus, arddangosodd ei waith ymhell y tu hwnt i Gymru - ledled y DU, yn Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau.
"Heb golli ei synnwyr digrifwch eironig na chwympo i fagl gormod o sentimentalrwydd, llwyddodd i bortreadu pobl a'u gobaith a'u gogoniant, tra hefyd yn dal eu gwendidau a'u diffygion gyda chywirdeb a mewnwelediad. Daeth â Chymru i'r byd!"
Ychwanegodd perchnogion yr oriel: "Pan oedd ei luniau ar ein waliau, byddai pobl yn cael eu syfrdanu gan fywiogrwydd ei liwiau a’r ffordd ryfeddol yr oedd pawb yn ei baentiadau i’w gweld yn symud yn ddi-baid ac yn gyffrous. Mor fyw, yn amlwg. Yn real.
"Mae ei waith yn datgelu ac yn rhoi naws ddramatig i’r berthynas rhwng pobl: cariadon a’r unig, cystadleuwyr, rhieni a phlant. Mae’n dal ein dyheadau, ein camgymeriadau a’n twyll; ein culni a’n huchelder ysbryd.
"Gwaith sydd wedi’i wreiddio yng nghymunedau’r cymoedd - y cymunedau a garai ac y bu’n byw ynddi."