Cymdeithas bêl-droed Cymru yn cyhoeddi gwaharddiad ar ferched traws o gemau merched
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi newidiadau i gystadleuaethau dan eu henw gan olygu bod gwaharddiad ar ferched traws o gemau merched.
Dywedodd CBDC y bydd cymhwysedd ar gyfer chwarae mewn gemau pêl-droed dan enw'r Gymdeithas yn cael ei benderfynu ar sail y rhyw a roddwyd i berson pan gafon nhw eu geni.
Mae hynny'n golygu na fydd modd, er enghraifft, i fenyw trawsryweddol chwarae mewn cystadleuaeth menywod os cafodd y person hwnnw ei eni'n wryw.
Daw penderfyniad CBDC fwy na blwyddyn ar ôl dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar 15 Ebrill ynghylch y diffiniad o fenyw.
Fe wnaeth barnwyr ddyfarnu fod y termau ‘menyw’ a ‘rhyw’ yn y Ddeddf Cydraddoldeb yn cyfeirio at fenywod biolegol a rhyw biolegol yn unig.
Dros flwyddyn yn ôl, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr na fyddai menywod trawsryweddol yn cael chwarae pêl-droed menywod o 1 Mehefin ymlaen.
Mewn datganiad nos Iau, dywedodd CBDC eu bod nhw wedi cynnal "adolygiad helaeth" o'r fframwaith cyfreithiol ynglŷn â'r pwnc.
"Dyma un o'r adolygiadau polisi mwyaf manwl a gofalus a gynhaliwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru erioed," meddai'r Gymdeithas.
"Dros y 15 mis diwethaf, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymgysylltu â chyfranogwyr trawsryweddol, clybiau, chwaraewyr, cynghreiriau, gweithwyr proffesiynol diogelu, academyddion, Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, arbenigwyr cyfreithiol a sefydliadau sy'n cynrychioli ystod eang o safbwyntiau.
"Rydym yn cydnabod bod y meini prawf cymhwysedd diwygiedig yn effeithio ar aelodau o'n cymuned pêl-droed, yn enwedig pobl trawsryweddol sydd yn cymryd rhan, ac rydym yn deall cryfder y teimladau ynglŷn â'r penderfyniad."
Ychwanegodd CBDC fod y newidiadau'n dod i rym yn syth.
'Urddas a pharch'
Mae llai na 30 o fenywod traws wedi'u cofrestru ymhlith miliynau o chwaraewyr amatur yn Lloegr, tra nad oes ffigurau ar gael yng Nghymru.
Nid oes unrhyw fenywod traws cofrestredig yn y gêm broffesiynol ar draws Cymru a Lloegr.
Wrth i gynghreiriau proffesiynol ac amatur ledled Cymru gychwyn ar gyfer y tymor eleni ddydd Gwener, dywedodd CBDC y byddan nhw'n ymrwymo i sicrhau bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch.
"Tra bod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cystadlaethau dan faner CBDC wedi newid, mae ein hymrwymiad i sicrhau bod pêl-droed yng Nghymru yn groesawgar, parchus ac yn gynhwysol heb newid," meddai'r Gymdeithas.
"Byddwn yn parhau i sicrhau bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch, a bod gan bawb gyfleoedd i gyfrannu at bêl-droed.
"Rydym yn parhau i ymrwymo i gynhwysiant, diogelu lles a gweithio gyda chymunedau wrth i bêl-droed yng Nghymru barhau i ddatblygu."
Ychwanegodd CBDC y byddan nhw'n gweithio gyda chwaraewyr sydd wedi cael eu heffeithio, clybiau a phartneriaid er mwyn "darparu arweiniad" ar weithredu'r polisi newydd.
Hefyd, maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi sefydlu Grŵp Gwaith Cyfranogiad Traws a fydd yn "gweithio i ddatblygu cyfleoedd, cynnig cyngor a sicrhau bod pobl draws yn parhau i gael cyfleoedd" yng Nghymru.