Gwrthdrawiad Caerfyrddin: Cyhoeddi mai dyn 44 oed a fu farw
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi mai dyn 44 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar gyrion Caerfyrddin nos Fawrth, ond nid yw ei enw wedi ei ryddhau eto.
Roedd y dyn yn cerdded ar ffordd yr A40 cyn y gwrthdrawiad chwe cherbyd, oedd yn cynnwys car yr heddlu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyfeirio eu hunain i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn y digwyddiad rhwng cylchfan Currys a chylchfan Abergwili am tua 21:50 nos Fawrth.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad yn mynegi pryder am ddiogelwch cerddwr ar y ffordd cyn y gwrthdrawiad angheuol.
Ar ôl anfon swyddogion i'r lleoliad, daeth adroddiadau pellach fod nifer o gerbydau wedi taro'r cerddwr cyn i'r swyddogion gyrraedd.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae amheuon fod un o'u cerbydau, a oedd yn gyrru ar yr A40 ar y pryd, yn rhan o'r gwrthdrawiad cyn i'r heddlu gyrraedd.
Bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.
Nid oes neb wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Gwnaed atgyfeiriad gorfodol i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu; mae hwn yn ofyniad statudol ar gyfer digwyddiadau o'r fath er mwyn sicrhau goruchwyliaeth annibynnol.
"Byddai'n amhriodol i ni wneud sylwadau pellach nes bod Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cwblhau eu hasesiad.
"Hoffai'r swyddogion sy'n ymchwilio siarad ag unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, yn ogystal â gyrwyr oedd yn teithio ar hyd yr A40 ar y pryd - yn enwedig unrhyw un â chamera dashfwrdd yn eu cerbydau."
Fe wnaeth y ffordd ailagor am tua 18:50 nos Fercher.