Caffi Conti yn Llanbedr Pont Steffan i gau ei ddrysau am y tro olaf
Bydd Caffi Conti yn Llanbedr Pont Steffan yn cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Gwener, ar ôl dros 90 mlynedd o fod mewn busnes.
Dywedodd y perchnogion nad oedd y penderfyniad wedi ei wneud yn ysgafn, ond ei fod yn cau am “resymau personol dwfn iawn”.
“Bydd yr atgofion yn parhau i fyw i lawer ohonoch a fu’n ymweld â’r caffi,” meddai’r cyhoeddiad.
“Rydyn ni’n siŵr bod llawer o straeon i’w rhannu, petai’r waliau’n gallu siarad.”
Mae croeso i bobl ymweld â’r caffi am y tro olaf, gyda’r canwr Bryn Fôn yn perfformio yno o tua 15:00 ymlaen ddydd Gwener.
Dros 90 mlynedd
Agorodd y caffi ar Sgwâr Harford yn 1933 ac roedd yn un o 17 o gaffis Conti a sefydlwyd ar draws de a gorllewin Cymru.
Erbyn 2012, caffi Llanbedr Pont Steffan oedd yr unig un o’r caffis gwreiddiol oedd ar ôl.
Bu farw Leno Conti, a dreuliodd ddegawdau yn gweithio yn y caffi, ym mis Chwefror eleni yn 97 oed.
Daeth Leno i’r caffi yn 1948 ar ôl gadael yr Awyrlu Brenhinol, gan helpu ei dad i redeg y busnes a gwneud hufen iâ Conti.
Cymerodd Jo Conti, merch Leno, a’i mab Tom y busnes drosodd yn 2012.
Cafodd adeilad y caffi ei roi ar werth yn gynharach eleni, ond mae’r busnes wedi dweud y bydd yn parhau i wneud hufen iâ yn Aberaeron.
Caeodd y caffi dros dro yn 2022 oherwydd costau ynni a chynhwysion cynyddol, cyn ailagor ym mis Tachwedd 2023.