Ci yn cael ei achub ar ôl cwympo oddi ar glogwyn i’r môr ger Dinbych-y-pysgod

Ci yn disgyn oddi ar glogwyn. - Dinbych y pysgod

Cafodd ci ei achub gan fad achub fore Iau ar ôl i Wylwyr y Glannau dderbyn galwad gan gerddwr yn dweud bod ei gi wedi cwympo oddi ar glogwyn.

Oherwydd pryderon y byddai’r perchennog yn ceisio achub y ci ei hun, cafodd bad achub y glannau ei lansio tua 11:00.

Ar ôl cyrraedd Trwyn Giltar, fe wnaeth pysgotwr lleol gyfeirio’r criw at ogof ar ochr orllewinol y trwyn ar ôl iddo glywed y ci’n cyfarth.

Aeth dau aelod o’r criw i mewn i’r ogof, lle’r oedd y ci wedi llwyddo i ddringo ar greigiau yn y cefn.

Roedd y ci heb ei anafu er iddo gwympo cryn bellter o ben y clogwyn.

Cafodd ei ddychwelyd yn ddiogel at ei berchennog ar Draeth Penalun.

 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.