Archfarchnad Sainsbury’s yn cytuno i werthu cwmni Argos am o leiaf £120m
Mae’r gadwyn archfarchnadoedd Sainsbury’s wedi cytuno i werthu Argos i gwmni newydd mewn cytundeb gwerth o leiaf £120 miliwn.
Swift Partners fydd yn prynu’r busnes, sef cwmni sydd wedi’i sefydlu gan gyn-benaethiaid profiadol yn y sector manwerthu.
Mae 44 o safleoedd Argos yng Nghymru, gan gynnwys siopau, canghennau mewn Sainsbury’s a mannau casglu.
Dywedodd Sainsbury’s mai busnes fel arfer fydd hi i weithwyr a chwsmeriaid Argos yn dilyn y cyhoeddiad.
Canolbwyntio ar fwyd
Bydd Swift yn prynu 201 o siopau Argos annibynnol ledled y DU, yn ogystal â’r 466 o ganghennau sydd y tu mewn i siopau Sainsbury’s dan gytundeb hirdymor.
Mae 466 o fannau casglu, rhwydwaith dosbarthu Argos, eu hyswiriant anifeiliaid anwes a’u cynlluniau gwarant cynnyrch hefyd yn rhan o’r cytundeb.
Bydd Swift hefyd yn prynu canolfan ddosbarthu Sainsbury’s yn Daventry a swyddfeydd caffael y cwmni yn Shanghai a Hong Kong.
Dywedodd Sainsbury’s y bydd y gwerthiant yn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar eu busnes bwyd.
Bydd y cwmni’n derbyn taliad cychwynnol o £70 miliwn pan fydd y cytundeb wedi’i gwblhau, a disgwylir i hynny ddigwydd ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Bydd gweddill yr arian yn cael ei dalu dros y tair blynedd wedyn, gyda’r broses o wahanu Argos oddi wrth Sainsbury’s yn llwyr i gael ei chwblhau erbyn 2029.
Nid yw Sainsbury’s wedi dweud faint o weithwyr fydd yn trosglwyddo i Swift Partners.
Dywedodd Simon Roberts, prif weithredwr Sainsbury’s: “Wrth i ni gryfhau ein busnes bwyd craidd, rydyn ni wedi ystyried yn ofalus beth fydd ei angen i greu’r dyfodol cryfaf posibl i Argos.
“Mae Swift yn dod ag arweinyddiaeth fanwerthu, arbenigedd gweithredol, gallu technolegol a buddsoddiad hirdymor, ynghyd ag ymrwymiad dwfn a chred ym mhotensial Argos yn y dyfodol.”
Perchnogion newydd
Mae Swift Partners wedi’i sefydlu gan gyn-bennaeth y Co-operative Group, Richard Pennycook, a chyn brif swyddog gweithredol Morrisons, Trevor Strain.
Mae Matt Truman a’i gwmni buddsoddi ac ymgynghori True Capital hefyd yn cefnogi’r cwmni newydd.
Mr Pennycook fydd cadeirydd gweithredol Argos ar ôl cwblhau’r pryniant.
Dywedodd: “Rydyn ni’n credu’n gryf yn nyfodol Argos ac yn gweld cyfleoedd gwirioneddol i fuddsoddi ac adeiladu ar ei gynnydd.”
Fe brynodd Sainsbury’s Argos am £1.4 biliwn yn 2016, pan oedd gan y busnes tua 845 o siopau annibynnol.
Mae llawer o’r rheiny wedi cau ers hynny ac mae gwerthiant y busnes wedi bod yn wan yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Daeth y cytundeb newydd ar ôl i drafodaethau rhwng Sainsbury’s a’r cwmni e-fasnach Tsieineaidd JD.com ddod i ben heb gytundeb y llynedd.
Dywedodd yr undeb llafur Usdaw y bydd y cyhoeddiad yn creu ansicrwydd i’r gweithwyr sy’n cael eu heffeithio.
Ychwanegodd mai eu blaenoriaeth fydd diogelu swyddi, cyflogau ac amodau gwaith eu haelodau.