Darganfod corff ail ddyn oedd ar goll o draeth ym Mhwllheli

Simon Wilson

Mae corff ail ddyn wedi’i ddarganfod yn ystod yr ymdrech i chwilio am ddau oedd ar goll o draeth ger Pwllheli ers dydd Mawrth diwethaf.

Cafodd swyddogion Heddlu'r Gogledd eu galw am tua 19:20 nos Fawrth yn dilyn adroddiadau bod corff wedi’i ddarganfod yn y môr ger Llwyngwril, Gwynedd.

Mae’r dyn bellach wedi’i adnabod fel Simon Wilson, un o’r dynion oedd ar goll o Bwllheli yr wythnos diwethaf.

Mae ei deulu a’r crwner wedi cael gwybod am y datblygiad.

Fe gyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun fod corff un o'r dynion, Connor Parfitt, wedi ei ddarganfod ar draeth yn Aberystwyth ddydd Sul.

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu'r Gogledd: “Rwy’n cynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu Simon yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.

“Nid dyma’r canlyniad yr oedd unrhyw un ohonom wedi gobeithio amdano, gan gynnwys y timau a oedd yn rhan o’r chwiliadau.

“Diolch i'n hasiantaethau partner, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r cyhoedd a gynorthwyodd gyda’n chwiliadau.

“Hoffem ofyn i breifatrwydd teuluoedd Simon a Connor gael ei barchu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.