Y cerddor a'r actor Glen Hansard wedi marw'n 56 oed

Glen Hansard

Mae'r cerddor a'r actor Gwyddelig Glen Hansard wedi marw mewn damwain beic modur yn Nulyn yn oriau mân bore dydd Mercher.

Roedd yn 56 oed.

Fe ddaeth yn enwog y gyntaf gyda'i fand 'The Frames' ar ddiwedd 80au'r ganrif ddiwethaf, ac yna am ei ran yn y ffilm 'The Commitments'.

Daeth llwyddiant pellach iddo gyda'r ffilm 'Once', ac fe dderbyniodd Oscar am gyd-gyfansoddi'r gân 'Falling Slowly' yn 2007.

Roedd yn briod gyda'r bardd Maire Saaritsa o'r Ffindir ac roedd ganddynt un plentyn, Christy, sydd yn dair oed.

Dywedodd Taoiseach Iwerddon, Micheál Martin, ei fod yn “drist iawn” o glywed y newyddion am farwolaeth Glen Hansard.

Roedd yn “gerddor ac yn actor talentog a wnaeth gyfraniad sylweddol i dirwedd ddiwylliannol Iwerddon dros nifer o flynyddoedd”, meddai. 

Mewn gyrfa oedd wedi para am dros 30 o flynyddoedd, roedd Glen Hansard yn paratoi ar gyfer ei sioe fyw 'Transmissions East and West', oedd yn ymgorffori uchafbwyntiau'r yrfa honno, cyn ei farwolaeth.

Roedd yn hoff o wahodd ei gefnogwyr i'w gyngherddau am ddim, ac fe fyddai'n canu pob Noswyl Nadolig ar Stryd Grafton yn Nulyn er mwyn codi arian at achosion da.

Yn angladd Shane MacGowan, prif leisydd y band The Pogues, yn 2023, perfformiodd Hansard y gân 'Fairytale Of New York' gyda'r gantores Wyddelig Lisa O’Neill.

Dywedodd heddlu Iwerddon fod dyn yn ei 50au wedi marw mewn damwain beic modur yn Lucan, ar gyrion prifddinas Iwerddon, ychydig cyn 04.30 ddydd Mercher.

Cafodd y dyn - na chafodd ei enwi gan yr heddlu - driniaeth yn y fan a’r lle, ond bu farw ychydig yn ddiweddarach.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.