Dyffryn Ogwen: Cais i adfywio tafarn boblogaidd sydd ar gau
Mae cais wedi ei gyflwyno i ailddatblygu tafarn boblogaidd yn Nyffryn Ogwen sydd wedi bod ar gau ers tro.
Fe wnaeth tafarn y Y Siôr (neu'r George Inn) gau ei drysau i gwsmeriaid y llynedd.
Mae cais bellach wedi'i gyflwyno i Gyngor Gwynedd i ailagor y dafarn ac i ddatblygu ardal fyw cyn-reolwr y dafarn yn llety i gerddwyr a dringwyr ei ddefnyddio.
Mae'r cyngor wedi derbyn cais am "estyniad llawr gwaelod i'r dafarn bresennol a newidiadau mewnol cysylltiedig".
Cafodd y cais ei gyflwyno gan Ceri Owen drwy'r asiant Gerwyn Jones o Outline Building Solutions.
Mae datganiad cynllunio yn disgrifio'r bwriad i ddefnyddio llety'r cyn-reolwr fel llety gwyliau.
Dywedodd y byddai'r datblygiad cyffredinol yn "cynnwys adnewyddu'r dafarn a darparu cynllun mewnol gwell".
Mae "prif ffocws y cais cynllunio hwn yn ymwneud â defnyddio llety'r rheolwr ar y llawr cyntaf - nad oes ei angen bellach - fel tair uned llety gwyliau fach ar wahân."
Rhan o'r gymuned
Wrth ddisgrifio sut bu i'r dafarn gau ym mis Ionawr 2025 a'i rhoi ar y farchnad, nododd y cais fod “Y Siôr wedi bod yn rhan o adeiladwaith a chymuned y rhan hon o Bethesda ers blynyddoedd lawer.
“Gosododd y perchnogion blaenorol, Admiral Taverns, yr eiddo ar y farchnad ar ôl i denant blaenorol adael.
“Mae’r ymgeisydd, Mrs Ceri Owen, yn lleol i’r ardal a phrynodd yr eiddo ym mis Mawrth 2026, gyda’r bwriad llwyr o adfer yr adeilad fel tafarn weithredol ac ased cymunedol gwerthfawr.”
Ni fyddai unrhyw newidiadau allanol mawr, a'r bwriad yw cael estyniad bach i'r cefn i ddarparu ar gyfer y gwelliannau.
“Mae'r cais hwn yn ceisio cadw'r Siôr fel tafarn weithredol a thrwy wneud hynny ymgymryd â gwaith adnewyddu sylweddol.
“Yn wir, mae'r ymgeisydd yn gwneud buddsoddiad sylweddol er mwyn achub y cyfleuster hwn a'i droi'n fusnes hyfyw.
“Y bwriad nawr yw defnyddio'r llawr cyntaf yn llety fel rhan o'r busnes cyffredinol,” meddai'r datganiad cynllunio.
Byddai'r unedau'n “fychan” ac wedi'u “hanelu at y gymuned gerdded a dringo”.
Llun: Google
