Seren realiti o Sir Gâr yn galw am fwy o gynrychiolaeth iechyd meddwl ar y teledu

ITV Cymru

Seren realiti o Sir Gâr yn galw am fwy o gynrychiolaeth iechyd meddwl ar y teledu

Mae menyw ifanc o Sir Gâr sydd wedi ymddangos ar gyfres realiti boblogaidd yn ddiweddar wedi derbyn canmoliaeth am drafod ei diagnosis o or-bryder.

Fe wnaeth Elisha Davies, sy’n 22 oed, gymryd rhan yn y gyfres ddiweddaraf o’r gyfres ddêtio LHDTC+ 'I Kissed a Girl'.

Dywedodd Elisha ei fod “yn bwysig i fi fod yn onest ar y cyfryngau cymdeithasol, a dw’i wedi derbyn negeseuon o bobl yn dweud bod nhw’n gwerthfawrogi gweld rhywun gyda phroblemau iechyd meddwl yn mynd allan yn y byd a neud y pethau yma.”

“Fi’n gobeithio bydd mwy o bobl gwneud yr un peth”.

Mae Elisha yn dweud ei bod wedi dioddef o symptomau gor-bryder erioed, ond ar ôl i’w chyflwr waethygu yn y brifysgol, fe benderfynodd ofyn am gymorth gan ei meddyg teulu. 

“Roedd derbyn gofal yn her, ac mae angen gwella’r cymorth sydd ar gael”, meddai. 

“Roedd rhaid gwthio am ddiagnosis, sy’n anodd, ond mae’n rhaid peidio rhoi lan…nath e newid fy mywyd”.

Wedi derbyn cymorth, fe benderfynodd Elisha i herio’i hunan, gan ymgeisio i fod ar y gyfres realiti. 

Image
Elisha Davies yn wisgo top gwyn a jîns wrth ymyl wal gwyn
Llun: BBC

“Nes i benderfynu peidio esgus bod yn unrhyw un ond fi fy hun. Dw’i ddim yn swnllyd neu’n gymdeithasol iawn, dwi’n introverted ac yn dawel.

“Rydw i wedi sylweddoli, dydw i ddim eisiau newid neu guddio fy anawsterau, mae’n rhan fawr o fy hunaniaeth”, ychwanegodd.

Ers siarad yn agored am ei symptomau, mae Elisha wedi derbyn negeseuon gan bobl yn uniaethu â hi, ac yn diolch iddi am roi pwyslais ar bwysigrwydd mynegi teimladau a phryderon.

“Hoffwn i siarad mwy am iechyd meddwl, rydw i’n darllen pob neges mae pobl yn danfon. Fi ‘di aros lan gymaint o nosweithiau yn darllen negeseuon gan bobl yn adlewyrchu beth rydw i wedi bod trwyddo.”

Yn ddiweddar, mae Elisha wedi dechrau’r broses o gael diagnosis am y cyflwr OCD, ac mae hi’n gobeithio bydd parhau i rannu ei phrofiad yn annog pobl eraill i drafod iechyd meddwl yn fwy agored. 

“Fi’n gobeithio bydd pobl yn gweld fi’n siarad am hyn a gweld fi ar y teledu a gweld bod modd neud unrhyw beth rwyt ti eisiau, er gwaethaf salwch meddyliol. 

“Adborth fi i bobl sy’n struglo yw ‘trust your gut’. Os chi methu cysgu, neu fynd tu allan neu ddim yn teimlo’ch hun, ewch i nôl help.

“Mae’n rhaid torri’r stigma.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd, ac rydym yn glir bod angen gwneud mwy i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a lleihau’r amseroedd aros.

"Mae ein Datganiad Ansawdd Iechyd Meddwl yn ein hymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cydnabod sut y gall hunaniaeth, gwahaniaethu ac anfantais effeithio ar iechyd meddwl pobl, gan gynnwys aelodau o'r gymuned LHDTC+."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.