Mam i ddyn aeth ar goll ger traeth ym Mhwllheli'n apelio am wybodaeth

Simon Wilson

Mae mam i ddyn aeth ar goll gyda dyn arall ar draeth ym Mhwllheli wedi apelio am wybodaeth.

Fe gyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun fod corff un o'r dynion, Connor Parfitt, wedi ei ddarganfod ar draeth yn Aberystwyth ddydd Sul.

Mae Simon, y dyn oedd gydag o pan welwyd y ddau ddiwethaf, y parhau i fod ar goll.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth, gofynnodd ei fam, Sarah Wilson, am gymorth i ddod o hyd iddo.

"Cadwch lygad allan am ein mab, Simon Wilson; mae hi wedi bod yn wythnos ers iddo fynd ar goll yn y môr gyda'i gaiac aer. 

"Mae'r ymdrech chwilio wedi ei hatal nes iddo ef neu unrhyw un o'i eiddo gael eu darganfod; rydym wedi cael gwybod y gallai fod ar hyd arfordir Cymru neu hyd yn oed mor bell ag Iwerddon. 

"Cafwyd hyd i ffrind Simon, Connor, ddydd Sul. Mae fy nheulu yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf i fam a theulu Connor yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Ychwanegodd fod eu teulu'n chwilio am atebion "i ni gael rhyw fath o ddiweddglo a dod â Simon adref."

Disgrifiodd rhai o'r eitemau oedd gan ei mab cyn ei ddiflaniad, gan gynnwys caiac gwyrdd a glas, esgidiau 'Crocs' llwyd, bag oren, siwmper werdd, sbectol haul a sbectol bresgripsiwn.

Ychwanegodd fod ei gap wedi dod i'r fei ger arfordir Aberdaugleddau ddydd Llun.

Fe gafodd Connor a Simon eu gweld ddiwethaf ar draeth wrth ymyl gwersyll Hafan y Môr, Pwllheli, yng Ngwynedd, gyda caiacs aer am 18:30 brynhawn dydd Mawrth 21 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.