Ymestyn cynllun cymorth i brynu tai yng Nghymru

tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn ymestyn tri chynllun cymorth tai, gan gynnwys Cymorth i Brynu.

Fe fydd Cymorth i Brynu – Cymru nawr yn parhau tan 31 Mawrth 2027.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynllun “wedi bod yn llwybr hanfodol i berchentyaeth i lawer, yn enwedig prynwyr tro cyntaf sy'n wynebu rhwystrau sylweddol yn y farchnad dai bresennol”.

Fe fydd y Grant Cartrefi Gwag yn cael ei ymestyn tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, gydag arian i adnewyddu hyd at 300 eiddo gwag a throi adeiladau sydd wedi'u hesgeuluso yn gartrefi teuluol, ynni-effeithlon.

Bydd y cynllun Cymorth i Aros - Cymru hefyd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2027, gan roi cymorth i berchnogion tai sy'n cael trafferth cwrdd â'u taliadau morgais. 

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian:

"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i'r egwyddor bod pob teulu yn haeddu cartref diogel a fforddiadwy i fyw ynddo. Mae cynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol yn un ffordd o gyflawni hyn ac rydym wedi cyhoeddi ein targed o 20,000 o gartrefi ychwanegol.

"Rydym hefyd yn cynnig cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sy'n berchen ar eu cartrefi neu sy'n dymuno bod yn berchen ar eu cartrefi – opsiwn nad yw'n fforddiadwy nac yn hygyrch i lawer wrth i brisiau barhau i godi y tu hwnt i gyrrhaeddiad pobl leol mewn sawl rhan o Gymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.