Gethin Lewis yn cipio prif deitl Cneifio Corwen
Gethin Lewis o Raeadr sydd wedi ennill prif gystadleuaeth Cneifio Corwen, gan ddod i’r brig yn y dosbarth agored ddydd Sadwrn.
Fe gurodd rai o gneifwyr gorau Cymru a’r byd, gyda Richard Jones yn ail a Jack Fagan yn drydydd.
Daeth Gwion Lloyd Evans, enillydd y brif gystadleuaeth y llynedd, yn bedwerydd.
Mae Lewis ymhlith prif gneifwyr Cymru ac fe osododd record Brydeinig unigol y llynedd drwy gneifio 696 o ddefaid mewn wyth awr.
Richard Jones enillodd gystadleuaeth Cneifio Cymru, gyda Gwion Lloyd Evans yn ail a Gethin Lewis yn drydydd.
Llwyddiant yn y gwahanol ddosbarthiadau
Daniel Copley enillodd y dosbarth hŷn, tra daeth Sion Griffiths i’r brig yn y dosbarth canolradd.
Llew Jones enillodd y dosbarth iau.
Beca Jackson o Ddyffryn Ogwen enillodd y gystadleuaeth i fenywod, flwyddyn ar ôl iddi gipio teitl y dosbarth iau yng Nghneifio Corwen.
Mae hi wedi dilyn yn ôl troed ei thad, Elfed Jackson, sydd wedi cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau cneifio dros nifer o flynyddoedd.
Dywedodd Beca cyn y gystadleuaeth ei bod hi wedi “cael y bug gan dad”, ar ôl cael ei magu o amgylch y byd cneifio.
Buddugoliaethau i dimau Cymru
Roedd llwyddiant hefyd i Gymru yn y profion tîm.
Fe gurodd y tîm cenedlaethol Seland Newydd a Gwlad y Basg, tra enillodd y tîm datblygu yn erbyn Ffrainc a’r tîm canolradd yn erbyn Iwerddon.
Tîm Wagga Wagga o Awstralia oedd yr unig dîm i guro Cymru.
Cneifio Corwen
Cafodd Cneifio Corwen ei sefydlu gan Arwyn ac Iola Jones yn 1989, ac mae wedi datblygu’n un o brif gystadlaethau cneifio’r byd.
Mae’r digwyddiad deuddydd ar Ystâd Rhug yn denu cneifwyr o Gymru, gweddill Prydain a thramor.
Mae miloedd o bobl yn ymweld â’r digwyddiad bob blwyddyn, gyda mwy na 2,500 o ddefaid yn cael eu cneifio.
Mae’r cystadleuwyr yn cael eu beirniadu ar gyflymder ac ansawdd eu gwaith, gyda phwyntiau’n cael eu colli am doriadau neu am adael gwlân ar y ddafad.