Mae diffoddwyr yn ceisio rheoli tân mewn iard metel sgrap yn Nhalacre, Sir y Fflint ddydd Sul, yng nghanol cyfnod eithriadol o brysur, wrth i danau gwyllt losgi mewn sawl ardal ar hyd a lled Cymru.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae'r tân ar Heol yr Orsaf yn Nhalacre yn un sylweddol, ac mae sawl criw yno yn ceisio ei reoli.
Dywedodd y Rheolwr Cyflwyno Gwasanaeth Jami Jennings: "Mae genym 75 o bobl o'r gwasanaeth tân ac asiantaethau sy'n bartneriaid i ni yno.
"Er mwyn eich diogelwch, rydym yn gofyn i bawb osgoi'r ardal a chadw'r ffyrdd yn glir er mwyn canitatáu i gerbydau'r gwasanaethau brys gael mynediad i'r safle
"Os ydych yn medru gweld neu aroglu mwg, sicrhewch bod eich ffenestri a drysau ynghau a gwnewch yn siŵr fod unrhyw systemau awyru wedi eu diffodd rhag iddyn nhw ddenu aer i mewn i'ch cartref."
Mae'r gwasanaeth tân hefyd yn gofyn i bobl beidio ag ymgynull ger safle'r tân na mynd i mewn yno, gan y gallai hynny amharu ar ymdrechion y criwiau tân.
Daw'r rhybudd wrth i griwiau tân geisio rheoli tanau gwyllt, gyda rhai yn llosgi ers bron i bythefnos bellach.
Yn ôl Gwasanaeth Tân y Gogledd, ail gydiodd sawl tân brynhawn Sadwrn wedi i'r gwynt godi.
Digwyddodd hynny yn ardaloedd Mynydd Conwy, Mynydd Bangor yn ogystal ag ardal Harlech a choedwig Bronaber a Chwm Nantcol yn Eryri
Fore Sadwrn, dychwelodd hofrennydd i fynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech am yr ail ddiwrnod i gynorthwyo criwiau tân sy’n mynd i’r afael â’r tanau gwyllt yn yr ardal.
Cafodd yr hofrennydd ei ddefnyddio gyntaf ddydd Gwener i helpu criwiau i gyrraedd ardaloedd anodd ac anghysbell lle’r oedd y tân yn dal i losgi.
Brynhawn Sadwrn, dywedodd y Rheolwr Cyflwyno Gwasanaeth, Jami Jennings: "Mae adnoddau ychwanegol wedi'u defnyddio fel rhagofal i sicrhau bod y sefyllfaoedd tân hyn yn cael eu rheoli. Mae hofrennydd diffodd tân hefyd yn parhau ar y safle ochr yn ochr â chydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru."
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, maen nhw a Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o bobl yn teithio i leoliadau tanau gwyllt i dynnu lluniau a fideos o'r awyr.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio na ddylai bobl wersylla yn yr ardaloedd hynny.
'Siomedig'
Ar ôl achub dau unigolyn, daeth y rhybudd diweddaraf gan Dîm Achub a Chwilio De Eryri wrth iddyn nhw apelio am yr eildro ar bobl i gadw'n glîr o ardaloedd ar dân.
Meddai llefarydd: " Yr wythnos yma, fe'n galwyd i ddigwyddiad yn ymwneud â dau unigolyn a aeth mewn i ardal oedd â thân allan o reolaeth. Er gwaetha'r gwaharddiadau ffyrdd a chyngor yr heddlu i gadw draw aethant i mewn i'r ardal. Canlyniad hyn oedd iddynt fynd i drybini ar y mynydd a gorfod galw am gymorth.
"Roedd amgylchiadau'r digwyddiad yma yn siomedig eithriadol gan mai i gael lluniau drôn o'r tanau yr aeth y ddau yma i fyny. O ganlyniad i'r alwad, fe anfonwyd gwirfoddolwyr Dîm De Eryri ynghyd â hofrennydd Achub a Chwilio ar orchwyl cwbwl ddi-angen.
"Rydym wedi gweld cynnydd mewn aelodau o'r cyhoedd yn ceisio ymweld â'r ardal ynghyd â gwersylla gwyllt er gwaetha'r ymbil gan yr asiantaethau i gadw draw.
"Mae pob galwad yn golygu ystyriaeth ddwys o'r peryglon i'n gwirfoddolwyr a'n cyd asiantaethau. Mae galwad o'r fath yn golygu rhwymo pobol ac adnoddau fyddai, fel arall ar gael i gynorthwyo'r gwir anghenus ac yn peryglu aelodau'r tîm, sydd i gyd yn wirfoddolwyr, yn ddi angen.
"Bu côst y digwyddiad yma yn sylweddol i'r pwrs cyhoeddus trwy ddefnyddio asedau arbenigol fel yr hofrennydd."
Mae tanau gwyllt hefyd yn dal i losgi yn y de.
Yn Sir Torfaen, mae’r gwasanaethau brys yn dal i fynd i’r afael â thanau sydd wedi effeithio ar 220 hectar o dir cymysg ym Mlaenafon.
Yn y Rhondda, cafodd trigolion Glynrhedynog eu rhybuddio nos Wener y gallai mwg o dân yn yr ardal effeithio ar y gymuned.