Murlun i ddathlu'r gwaddol rhwng Cymru a'r Alban yn cael ei baentio yn Glasgow

25/07/2026
Murlu Cymru yn Glasgow

Mae murlun sydd yn dathlu'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Alban wedi cael ei baentio ar westy sydd yn gartref i Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow.

Mae'n cynnwys y ddraig goch ac uncorn, sef anifail cenedlaethol yr Alban, gyda'r geiriau 'Gwlad Gwlad' oddi tano.

Hefyd, mae detholiad o gampau gwahanol sydd yn rhan o'r gemau wedi eu paentio ar y murlun.

Cafodd y murlun, sy'n 12 troedfedd mewn uchder, ei ddylunio gan yr artist Cymreig Pete Fowler a'i baentio gan yr artist Rogue One o Glasgow.

Fe fydd ail furlun yn cael ei greu ochr yn ochr â'r un presennol, sydd wedi ei baentio ar adeilad ger gwesty Yotel ar Stryd Hope y ddinas.

Mae disgwyl i hynny gael ei gwblhau erbyn dechrau'r wythnos nesaf.

Dywedodd Prif Weithredwr Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons, fod y murlun yn "cipio ysbryd y gemau" tra'n dathlu Cymru a'r Alban.

"Mae'n hynod sbesial i weld Cymru yn cael ei chynrychioli yng nghalon Glasgow mewn ffordd mor greadigol a beiddgar," meddai.

"Mae'n dod â'n hunaniaeth genedlaethol a'n cariad at chwaraeon at ei gilydd, a hefyd ein cysylltiad â'r Alban.

"Mae Gemau'r Gymanwlad eisoes wedi rhoi sawl rheswm i ni fod yn falch, ac mae'r murlun yma yn cipio ysbryd hynny tra'n dathlu'r ddwy genedl ochr yn ochr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.