Bom 'sylweddol iawn' wedi ei ddarganfod mewn car ar y ffordd i Ogledd Iwerddon

heddwas iwerddon

Mae'r heddlu yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi dod o hyd i gar yn cynnwys bom "sylweddol iawn" wrth iddo gael ei yrru ar draws y ffin ar gyfer ymosodiad yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd y cerbyd ei atal gan y Garda, heddlu'r Weriniaeth, ddydd Mercher yn ystod ymgyrch a oedd yn targedu gweithgareddau gweriniaethol. Mae dau berson wedi cael eu harestio mewn perthynas â'r digwyddiad.

Cadarnhaodd Comisiynydd y Garda, Justin Kelly, ddydd Gwener fod swyddogion wedi dod o hyd i'r ddyfais ffrwydrol, gan ddisgrifio'r darganfyddiad fel un "arwyddocaol iawn".

Cafodd y cerbyd ei atal ar ffordd yr N2 ger Carrickmacross, yn Sir Monaghan, tua 15:00 ddydd Mercher.

Fe gafodd menyw yn ei 20au, a oedd yn gyrru'r cerbyd, ei harestio yn y fan a'r lle, ac mae dyn yn ei 40au wedi cael ei arestio ers hynny.

Dywedodd ffynonellau o fewn y Garda wrth y darlledwr cyhoeddus Gwyddelig, RTÉ, bod y bom yn un ar raddfa milwrol.

Ychwanegodd yr un ffynnonellau mai'r bwriad oedd gosod y bom osod o dan gar fel rhan o ymosodiad yng Ngogledd Iwerddon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.