'Fyddwn i ddim yma': Dyn ifanc o Gaerffili yn diolch am driniaeth arloesol

Rhys outside GOSH.jpg

Mae dyn 25 oed o Sir Caerffili a oedd y plentyn cyntaf yn y DU i gael ei drin â therapi genynnau yn dweud na fyddai yma heddiw heb y driniaeth.

Mae Ysbyty Great Ormond Steet yn Llundain yn dathlu 25 mlynedd ers cyflwyno therapi genynnau am y tro cyntaf, a bellach wedi trin mwy na 135 o blant sydd â chyflyrau sy'n peryglu bywyd ar draws y byd. 

Rhys Evans o bentref Nelson oedd y plentyn cyntaf yn y DU i gael ei drin â therapi genynnau. 

Pan oedd yn un oed, fe gafodd Rhys ei drin yn Ysbyty Great Ormond Street ar gyfer Diffyg Imiwnedd Cyfun Difrifol (SCID), sef cyflwr prin sy'n gadael babanod heb system imiwnedd weithredol, sy'n golygu na allant ymladd yn erbyn heintiau bob dydd.

Yn 2001, yr unig driniaeth ar gyfer cleifion fel Rhys oedd trawsblaniad mêr esgyrn, sydd yn driniaeth hynod o anodd

Image
Rhys yn dathlu ei ben-blwydd yn un oed.
Rhys yn dathlu ei ben-blwydd yn un oed.

Rhys oedd y cyntaf i dderbyn y therapi genynnau, ac o fewn wythnosau, fe wnaeth ei system imiwnedd ddechrau datblygu.

"Fyddwn i ddim yma heb y driniaeth a gefais yn Ysbyty Great Ormond Street. Wrth dyfu, rydw i wedi gallu byw bywyd normal, mynd i'r ysgol a'r brifysgol, gweld ffrindiau, a chynllunio ar gyfer y dyfodol, pethau nad oedd fy nheulu yn eu cymryd yn ganiataol ar un adeg," meddai. 

"Mae'n anhygoel gweld sut mae 25 mlynedd o therapi genynnau wedi helpu cymaint o blant fel fi.”

Fe gafodd therapi genynnau ei arloesi gan Ysbyty Great Ormond Street a Choleg Prifysgol Llundain gan yr Athro Bobby Gaspar a'r Athro Adrian Thrasher a oedd yn gweithio ar fath newydd o therapi, drwy fewnosod copi o'r gennyn i gelloedd y cleifion eu hunain, gan ddisodli genynnau diffygiol.

Image
Rhys yn graddio
Rhys yn graddio

Fe wnaeth Kimberly Gilmour brosesu y celloedd ar gyfer Rhys yn 2001 yn y labordai yn Ysbyty Great Ormond Street ac mae hi'n dal i weithio yn yr ysbyty nawr fel Pennaeth Meddygaeth Labordy.

"Cyn Rhys, doedden ni erioed wedi gweithio gyda chelloedd ffres o'r blaen, felly roedd yn eithaf brawychus! Roedd ei rieni ac Adrian [Thrasher] yn y swyddfa yn ein gwylio ni drwy'r gwydr i mewn i'r labordy, gan nad oedd gennym ni intercom na ffôn symudol i gyfathrebu â nhw," meddai.

"Aethom â'r celloedd i'r ward at Rhys, a doedden ni ddim yn gwybod a fyddai hyn yn iachâd. Roedden ni wrth ein bodd ei fod wedi gwneud mor dda."

Erbyn heddiw, mae therapi gennynau yn yr ysbyty yn cael ei ddefnyddio i drin amryw o gyflyrau diffygion imiwnedd ac anhwylderau genetig prin.

Mewn cyfanswm, mae timau yn yr ysbyty wedi cyflwyo 35 o driniaethau therapi gennyn a chell gwahanol i fabanod, plant a phobl ifanc, gyda nifer cynyddol bellach ar gael ar y GIG. 

Mae ymchwilwyr bellach yn gwneud cynnydd gyda'r mathau nesaf o therapi gennynau, gan gynnwys ar gyfer cyflyrau prin y galon.

Dywedodd Dr Kiki Syrad, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi yn Ysbyty Great Ormond Street: "Mae nodi 25 mlynedd o therapi genynnau yn Ysbyty Great Ormond Street  yn ddathliad o ba mor bell yr ydym wedi dod ac yn atgof pwerus o’r hyn sy’n dal yn bosibl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.