‘Sioc’ a ‘siom’ nad yw hofrenyddion ar gael i ddiffodd tanau gwyllt yng Nghymru
‘Sioc’ a ‘siom’ nad yw hofrenyddion ar gael i ddiffodd tanau gwyllt yng Nghymru
Mae cyn-ddiffoddwr tân wedi dweud ei fod yn “siomedig” nad oes hofrenyddion ar gael i ddiffodd tanau gwyllt yng Nghymru.
Dywedodd Tim Lloyd, cyn-ddiffoddwr tân sy’n byw yn Nwygyfylchi, ei fod yn credu mai diffyg cynllunio oedd yn gyfrifol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei “threfniadau rheoli argyfwng” ar waith i gydlynu’r ymateb i gyfres o danau gwyllt mewn sawl rhan o’r wlad wrth i’r tywydd poeth barhau.
Mae un tân gwyllt wedi bod yn llosgi ym mynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech ers 11 diwrnod. Daw hyn ar ôl tân gwyllt helaeth a fu’n llosgi ym Mwlch Sychnant yr wythnos diwethaf.
Daw'r tanau gyda disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi’n swyddogol ddydd Iau bod Cymru mewn cyfnod o sychder.
Hyd yma, dim ond tua 5% o’r glawiad arferol ar gyfer mis Gorffennaf mae Cymru wedi’i gael.
Dywedodd Tim Lloyd fod diffyg cymorth o’r awyr yn “sioc”. Mae’n byw yn Nwygyfylchi, ger safle’r tân a fu’n llosgi ym Mwlch Sychnant yr wythnos diwethaf.
“Mae’n siomedig iawn beth sydd wedi digwydd a beth ydyn ni wedi ei weld dros yr wythnos neu ddau diwethaf yma,” meddai wrth Radio Cymru.
“Sioc fi ydi bod yr hofrennydd ddim wedi troi allan dros Gymru. Ro’n i’n gweld y tân tu allan i ffenest gegin fi ac o’n i’n shocked ar y pryd bod yr hofrennydd heb ’di troi allan.
“Peth cynta’ o’n i’n meddwl oedd bo’ ni angen hofrennydd fan hyn am fod y tân mor fawr ’lly.
“Mae ’na gwestiwn mawr yn fy marn i i ofyn pam mae hynna wedi digwydd. Y cynllunio o flaen llaw swn i’n meddwl.
“O’n i ar sawl tân dros y blynyddoedd lle’r oedden ni’n gofyn am hofrennydd neu’n gofyn am awyren a fysa fo’n troi fyny a’n helpu i gwffio’r tân.
“Tro yma dydi o heb ’di digwydd ac mae cwestiwn mawr i’w ofyn pam di o heb ’di digwydd.
“Amlwg i fi fod nhw heb ofyn amdana fo digon sydyn.”
Dywedodd Siân Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru wrth Newyddion S4C ddydd Mercher mai prinder hofrenyddion oedd yn gyfrifol am y ffaith nad oedd cymorth o’r awyr ar gael.
“’Dan ni wedi bod yn trio symud ymlaen yn y ciw,” meddai.
“Trio cael y gefnogaeth yna i ddod i’r ardal ers wythnos rwan.
“Mae gennym ni staff sydd wedi bod yn gweithio yn galed iawn, yn trio cael yr hofrenyddion yma i ddod i’r ardal.
“Fel ’da ni’n sefyll fan hyn rwan, ’da ni ddim wedi bod yn llwyddiannus, ond mi ydan ni’n dal i weithio ar hynny ac yn gobeithio dod â rhywun yn y dyddiau nesaf.”
‘Cais ffurfiol’
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, fod newid hinsawdd yn “sicr o gynyddu’r risg” o danau gwyllt.
“Mae ein diffoddwyr tân wedi’u hyfforddi i fynd i’r afael â thanau gwyllt ac mae criwiau wrthi’n rheoli’r tanau ar lawr gwlad drwy ddefnyddio toriadau tân naturiol, creu toriadau tân newydd, a lleihau mannau poeth,” meddai.
“Er nad oes unrhyw allu diffodd tân o’r awyr ar gael i’w ddefnyddio yn unman yn y DU ar hyn o bryd i gefnogi’r ymdrechion hyn, gwnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gais ffurfiol am gymorth cydfuddiannol ar ffurf staff ac offer tân, ac rwy’n falch bod hyn wedi’i gytuno a bod yr adnoddau hynny bellach ar lawr gwlad yn cefnogi criwiau.
“Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn mynd i’r afael â thân gwyllt anodd a graddfa fawr ym Mlaenafon am y trydydd diwrnod.
“Disgwylir i’r tân barhau i losgi am sawl diwrnod ac mae diffoddwyr tân yn aros yn y fan i’w atal rhag lledaenu ymhellach a rhoi bywydau, bywyd gwyllt ac eiddo mewn perygl.
“Hoffwn ddiolch i gymunedau lleol am eu hamynedd a’u cydweithrediad. Nid yw dilyn cyngor diogelwch pan fyddwch chi’n agos at adref ac yn poeni byth yn hawdd, ac rwy’n ddiolchgar am y ffordd dawel a chyfrifol mae pobl wedi ymateb.”