‘Hwyl fawr am y tro!’: Martyn Geraint yn ymddeol ar ôl 40 mlynedd

‘Hwyl fawr am y tro!’: Martyn Geraint yn ymddeol ar ôl 40 mlynedd

Mae’r diddanwr Martyn Geraint wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ôl 40 mlynedd yn diddanu plant Cymru.

Dydd Iau, diwrnod olaf Sioe Frenhinol Cymru, fydd ei ddiwrnod swyddogol olaf.

Dechreuodd ei yrfa yn Llanelwedd 40 mlynedd yn ôl, ac mae’n dweud bod gorffen yn yr un lle yn “cau pen y mwdwl”.

“Wi wedi bod yn dweud ers dwy flynedd bo fi’n ymddeol yma eleni, achos dechreuais i ’ngyrfa yma ddeugain mlynedd yn ôl,” meddai.

“Gorffen dydd Iau yn Sioe Llanelwedd, a fydd e’n drist. Ac eto, oes, mae ’na bethau i edrych ymlaen atyn nhw.”

Un amlwg sy'n cael ei gysylltu'n uniongyrchol efo Martyn ar hyd y blynyddoedd - yw'r cymeriad Wcw, sef pyped fersiwn pync o'r aderyn gwcŵ. Gyda'r ddau wedi diddori a diddanu cenhedlaethau o blant Cymru.

Image
wcw

‘Pop star i blant Cymru’

Dros y degawdau, mae Martyn wedi dod yn wyneb cyfarwydd ar raglenni fel Slot Meithrin, Planed Plant Bach a Cegin Twts, yn ogystal ag ar lwyfannau ledled Cymru.

Ar ôl hyfforddi ym maes addysg yng Nghyncoed, fe gyfunodd ei ddawn fel perfformiwr â’i allu i weithio gyda phlant drwy Esgubor Rec.

“Isie bod yn pop star o’n i, so oedd y gerddoriaeth yn bwysig i fi,” meddai.

“Mewn ffordd, dw i wedi troi’n pop star i blant Cymru, a dyna oedd y ddawn oedd gen i.”

Ymhlith uchafbwyntiau ei yrfa mae perfformiadau byw ledled Cymru, ymweliad â Phatagonia gydag Wcw a diddanu miloedd o blant mewn jamborîs.

Ond wrth edrych yn ôl, dywedodd mai’r gallu i ddod â hapusrwydd i blant sydd wedi golygu fwyaf iddo.

“Jyst hapusrwydd, dw i’n meddwl, a’r ffaith bo fi’n gallu dod â hapusrwydd i gymaint o blant.”

Mae ei ymddeoliad yn dod ychydig wythnosau ar ôl marwolaeth ei dad.

“Ni newydd golli ’nhad, a dweud y gwir, ryw bythefnos yn ôl, ac oedd e’n falch iawn ohona i a’r gwaith o’n i’n gallu ei wneud.

“Oedd e’n dwli ar blant. Wi’n credu nes i etifeddu hwnna ganddo fe.”

Image
wcw

Dysgu drwy gael hwyl

Mae addysg wedi parhau’n rhan ganolog o waith Martyn, gyda chanu, dawnsio a phypedau yn cael eu defnyddio i gyflwyno’r Gymraeg i blant.

“Os o’n i’n gallu dysgu rhywbeth ond cael hwyl ar yr un pryd, wedyn o’n i wedi llwyddo i daro’r marc,” meddai.

“Dyna’r ffordd orau o ddysgu, yw nad wyt ti’n sylweddoli dy fod ti’n dysgu ond dy fod ti’n cael hwyl wrth wneud e.”

Dywedodd fod Dafydd Iwan ac Edward Morris Jones, tad Rhun ap Iorwerth, wedi dangos iddo pan oedd yn blentyn ei bod hi’n bosibl creu adloniant Cymraeg i blant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.