Cynnal gwasanaeth coffa i nodi 60 mlynedd ers trychineb Llyn Penmaen
Bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ddydd Mercher i nodi 60 mlynedd ers trychineb Llyn Penmaen ger Dolgellau.
Fe gollodd 15 o bobl eu bywydau yn nhrychineb cwch pleser y Prince of Wales, gyda 28 o deithwyr a chriw yn goroesi.
Wedi'i drefnu gan Gyngor Tref Dolgellau, fe fydd y gwasanaeth yn cynnwys dadorchuddio cofeb newydd er cof am y rhai a fu farw.
Gadawodd y cwch pleser Abermaw ar 22 Gorffennaf 1966, ond suddodd ar ôl taro Pont Doll Llyn Penmaen.
Fe wnaeth John Hall, perchennog Gwesty George III, lansio ei gwch rhwyfo ac ynghyd â dau o’i weithwyr David Jones a Robert Jones, fe achubodd nifer o deithwyr.
Llwyddodd Ronald Davies hefyd i achub dau blentyn o’r afon.
Fe arweiniodd y drychineb at newidiadau sylweddol i reoliadau’r llywodraeth ar gyfer teithiau pleser ar gychod.
Dywedodd y Cynghorydd lleol Nia Wyn Evans, Cyngor Tref Dolgellau: “Mae’r achlysur yma’n gyfle pwysig i’n cymuned ddod ynghyd i gofio’r rheiny a gollodd eu bywydau, ac i anrhydeddu dewrder y rhai a helpodd eraill heb ystyriaeth i’w diogelwch eu hunain.
"Bydd y gofeb newydd yn sefyll fel teyrnged barhaol – nid yn unig i’r bywydau a gollwyd, ond hefyd i’r dewrder a ddangoswyd yma yn Llyn Penmaen chwe deg mlynedd yn ôl.”
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys cyfraniadau gan yr esgobaeth leol, darlleniad o gerdd gan Huw Dylan Owen, a chân gan Lois Wyn Hughes.