Stephen Kinnock yn cael ei benodi yn Ysgrifennydd newydd Cymru
Mae 10 Stryd Downing wedi cyhoeddi mai Stephen Kinnock yw'r Ysgrifennydd Cymru newydd.
Daeth y cyhoeddiad wrth i Andy Burnham ddatgelu aelodau ei gabinet newydd, ychydig oriau ar ôl iddo gamu i mewn i Rif 10 Stryd Downing.
Roedd rhagflaenydd Kinnock, Jo Stevens, eisoes wedi cyhoeddi ei bod wedi gadael ei swydd, gan ddymuno’n dda i’w holynydd.
Y penodiad cyntaf a gyhoeddodd Andy Burnham nos Lun oedd John Healey yn Ganghellor y Trysorlys.
Ymddiswyddodd Mr Healey fel Ysgrifennydd Amddiffyn yng nghabinet Syr Keir Starmer yn ddiweddar yn sgil ffrae ynghylch ariannu’r fyddin.
Mae’r cyn-ganghellor Rachel Reeves, David Lammy a Steve Reed ymhlith y gwleidyddion amlycaf i golli eu rolau yng nghabinet newydd Andy Burnham.
Y gred yw bod Rachel Reeves wedi cael cynnig rôl arall yn y llywodraeth, ond iddi wrthod y cynnig.
Cafodd Shabana Mahmood ei hailbenodi’n Ysgrifennydd Cartref ar ôl iddi ymgymryd â’r rôl am y tro cyntaf ym mis Medi 2025, ar ôl i Syr Keir ad-drefnu ei gabinet.
Bydd Pat McFadden hefyd yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.
Ar ôl cyfnod fel Ysgrifennydd Tramor, mae Yvette Cooper wedi cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Iechyd.
Y cyn-Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband, yw’r Ysgrifennydd Tramor newydd.
Ar ôl ymddiswyddo o’i rôl fel Dirprwy Brif Weinidog y DU ym mis Medi’r llynedd, mae Angela Rayner wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd Tai.
Mae Jonathan Reynolds wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Busnes, a Lucy Powell yw’r Ysgrifennydd Addysg newydd.
Mae Anneliese Midgley wedi’i phenodi’n Brif Chwip.