Cyngor Môn yn dweud bod trydedd groesfan dros y Fenai yn 'hanfodol'
Mae cael trydedd groesfan dros Afon Menai yn "hanfodol" yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, sydd yn dweud bod cau Pont y Borth sawl gwaith yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd wedi "cysgodi'r" achlysur yn rhannol.
Mae adroddiad newydd gan y cyngor, sydd yn edrych ar wydnwch y croesfannau presennol dros y Fenai, yn dweud bod angen trydedd groesfan er mwyn diogelu "dyfodol economaidd-gymdeithasol Ynys Môn" a rhanbarth ehangach gogledd Cymru.
Mae disgwyl i'r mater gael ei drafod mewn cyfarfod o bwyllgor gweithredol y cyngor ddydd Mawrth, 21 Gorffennaf.
Daw’r galwadau'n ddiweddar yn sgil blynyddoedd o anawsterau i drigolion ar ddwy ochr y Fenai, sydd wedi dioddef tagfeydd traffig ac oedi.
Ymhlith argymhellion yr adroddiad mae codi proffil yr achos dros drydedd groesfan ymhlith rhanddeiliaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Mae hefyd yn cynnwys galwadau am gyfarfod â Gweinidogion y llywodraeth i drafod "dull cydweithredol" ac i gynnig amserlen ar gyfer y camau nesaf a'r cynnydd.
Mae dogfen y cyngor yn tynnu sylw at yr "effeithiau negyddol" a ddeilliodd o gau Pont Menai yn sydyn ym mis Hydref 2022 – effeithiau medden nhw na ellir eu tanamcangyfrif.
Nodwyd hefyd broblemau yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, pan fu’n rhaid cau Pont Menai dair neu bedair gwaith mewn cyfnod o 24 awr oherwydd cerbydau rhy drwm yn ei chroesi.
Hanfodol
Dywedodd yr adroddiad: "Cafodd yr hyn a ddylai fod wedi bod yn ddathliad o’r iaith Gymraeg, y celfyddydau a’r diwylliant – ac o’r ynys ei hun – ei gysgodi’n rhannol gan yr anhrefn a achoswyd gan gau Pont Menai.
“Yr ateb hirdymor yw trydedd groesfan dros Afon Menai.
"Mae’r tagfeydd parhaus a’r diffyg gwydnwch yn cyfyngu’n ddifrifol ar gysylltiadau cymdeithasol, economaidd, addysgol, iechyd a diwylliannol i ac o weddill y wlad, ac yn cael effaith negyddol ddofn arnynt.
“Mae hefyd yn rhwystro gallu’r ynys i ddenu’r busnesau a’r gweithgaredd economaidd sydd eu hangen arni i leihau cylch o golli swyddi, llai o gyflogaeth ar yr ynys a mwy o ddibyniaeth ar swyddi oddi ar yr ynys.
“Mae twristiaeth yn sector pwysig i economi Ynys Môn; mae cau’r bont dro ar ôl tro – gan gynnwys cau ar fyr rybudd – a’r problemau a achosir gan hynny, yn effeithio’n negyddol ar ba mor ddeniadol yw Ynys Môn fel cyrchfan i dwristiaid,” meddai’r adroddiad.
Roedd trydedd groesfan yn "hanfodol" nid yn unig i Ynys Môn, meddai'r adroddiad, ond hefyd i “ddyfodol economaidd-gymdeithasol” gogledd Cymru ac i “gysylltedd rhyngwladol” ar draws y DU â marchnad ehangach Ewrop.
Annerbyniol
Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, ym mis Mehefin bod problemau Pont y Borth yn "annerbyniol" a bod pobl Ynys Môn "wedi eu gadael i lawr yn rhy hir".
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, fod pobl yr ynys yn wynebu "anhrefn" o ganlyniad i gau’r bont.
Wrth ateb cwestiynau yn ei sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog cyntaf, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod wedi bod yn "brwydro am amser hir ar y pwnc dan sylw".
"Mae'n annerbyniol ein bod wedi bod mewn sefyllfa lle rydym yn ceisio atgyweirio pont a allai ac a ddylai fod wedi cael ei thrwsio amser maith yn ôl," meddai.
"Mae’n dal i lusgo ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd y Llywodraeth hon yn gweithredu gyda mwy o frys a ffocws.
"Rydw i wedi ymrwymo i adnewyddu'r broses o ddatblygu atebion i wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws Afon Menai."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, fod y Llywodraeth yn edrych ar wytnwch y rhwydwaith drafnidiaeth gan gynnwys y croesfannau dros Afon Menai a’r M4 o amgylch Casnewydd yn y de.
Mewn datganiad yn y Senedd ar 9 Mehefin, dywedodd: "Wrth edrych ar y tymor hir, byddwn nawr yn dechrau edrych ar bosibiliadau manwl ar gyfer trydedd groesfan dros y Fenai, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud.
"Mae croesfannau'r Fenai a'r M4 yn dangos yr her ehangach o reoli seilwaith sy'n heneiddio yn wyneb y galw cynyddol.
"Yng ngogledd y wlad, rydym ni'n bwrw ymlaen â mesurau uniongyrchol a dewisiadau tymor hwy i gryfhau gwytnwch ar draws y Fenai, gan gynnwys ystyried dewisiadau manwl ar gyfer trydedd groesfan."
Llun: Croeso Môn