Emma Raducanu yn ‘haeddu’r llwyddiant’, yn ôl cyn-hyfforddwr iddi o Gymru

Emma Raducanu yn ‘haeddu’r llwyddiant’, yn ôl cyn-hyfforddwr iddi o Gymru

Heno

Wedi llwyddiant anghredadwy Emma Raducanu ym Mhencampwriaeth Tenis Agored yr UDA, mae un hyfforddwr tenis o Gymru yn dweud nad yw’r hyn mae wedi ei gyflawni yn syndod.

Mae Matthew James o’r Fflint yn gyn-hyfforddwr i Raducanu, sy’n prysur goncro’r byd tenis a hithau ond yn 18 oed.

Yn ôl James, roedd o’n “gwybod” y byddai’n gwneud yn wych.

Dywedodd wrth raglen Heno ar S4C yn dilyn ei llwyddiant: “O’n i’n lwcus iawn gweithio efo Emma Raducanu am ddwy flynedd i lawr yma yn Bromley.

“O’n i’n gwybod y bydde hi’n gwneud yn wych yn tenis, ac yn haeddu’r lwyddiant o America a llongyfarchiadau Emma.”

Mae James, sydd bellach yn byw yn Llundain, wedi gweithio gydag amryw o sêr eraill o’r byd tenis, gan gynnwys Andy a Jamie Murray, ac wedi gweithio ar dîm hyfforddi Tîm GB cyn y Gemau Olympaidd eleni.

Fe weithiodd gyda Raducanu am ddwy flynedd o pan oedd hi’n 15 oed, gan hefyd fod yn rhan o’r tîm hyfforddi oedd tu ôl iddi yn ei hymgyrch yn Wimbledon eleni, ble cyrhaeddodd y bedwaredd rownd o’r bencampwriaeth cyn gorfod rhoi’r gorau am resymau meddygol.

Serch hynny, megis dechrau mae llwyddiant Raducanu, awgrymai James.

Ychwanegodd: “Dwi’n edrych ymlaen i weld be ddaw nesa i [Emma Raducanu].”