Sir Benfro: Llys yn clywed bod bachgen wedi ‘trywanu athrawes am ei bod yn darged hawdd’
Mae llys wedi clywed bod bachgen ysgol sydd wedi’i gyhuddo o drywanu athrawes wedi ei thargedu am ei bod yn “darged hawdd”.
Mae’r diffynnydd 16 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi pledio’n ddieuog i geisio llofruddio Vicki Williams yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ym mis Chwefror.
Mae’r bachgen, a oedd yn 15 oed adeg yr ymosodiad honedig, wedi’i gyhuddo o drywanu Mrs Williams yn ei phen yn fwriadol.
Clywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener fod Mrs Williams yn “athrawes fenywaidd ar ei phen ei hun” ac yn “darged hawdd” pan honnir i’r bachgen ymosod arni.
Dywedodd Christopher Rees KC, ar ran yr erlyniad, yn ei araith gloi: “Mae’n gwybod y gwir am yr hyn a wnaeth.
“Ond, mae arna i ofn, does ganddo ddim y dewrder na’r edifeirwch i ddweud wrth neb amdano.
“Fe ddaeth â’r gyllell i’r ysgol am ei fod wedi bwriadu ymosod ar yr athrawes.
“Pam Vicki Williams? Wel, am chwarter wedi tri, roedd hi’n athrawes fenywaidd ar ei phen ei hun. Roedd hi’n darged hawdd.
“Wnaeth e ddim ymosod ar athro gwrywaidd, naddo? Fe ymosododd ar un o’r athrawon benywaidd ifanc pan oedd hi ar ei phen ei hun yn ei hystafell ddosbarth.”
‘Ddim yn gallu gwrthsefyll’
Roedd y llys wedi clywed o’r blaen fod y bachgen wedi mynd at ei desg brynhawn Chwefror 5 eleni i ofyn iddi wirio ei waith.
Pan gaeodd ddrws yr ystafell ddosbarth, gan ddweud ei bod yn oer, fe ddechreuodd “clychau larwm” ganu yn ei phen, meddai hi.
Clywodd y rheithgor fod y disgybl wedi tynnu cyllell gegin fawr o’i fag ac wedi ei tharo yn ei phen, yn ôl yr honiad.
Roedd y llys wedi clywed o’r blaen fod “ysgarmes dreisgar” wedi digwydd wedyn. Fe geisiodd Mrs Williams gipio’r gyllell oddi arno cyn iddo redeg o’r ysgol.
Gwelodd y rheithgor luniau teledu cylch cyfyng o’r bachgen yn gadael y safle. Yna, fe aeth i gartref ei nain a dweud wrthi: “Fe aeth rhywbeth yn fy mhen, nain.”
Dywedodd Mr Rees: “Y peth agosaf at esboniad am pam y gwnaeth e hyn, gan na fydd e byth yn dweud, yw: ‘Fe aeth rhywbeth yn fy mhen.’”
Ychwanegodd: “Dim ond am ei fod wedi taro cefn ei phenglog, ac am iddi ymladd yn ôl, y mae hi yma heddiw.”
Yn gynharach yn yr achos, dywedodd y bachgen wrth y llys fod Mrs Williams wedi ei weld gyda’r gyllell ac wedi “ceisio ei chipio” oddi arno.
Dywedodd ei fod wedi “ymosod arni’n ddamweiniol” wrth i hynny ddigwydd.
Dywedodd Matthew Roberts KC, ar ran yr amddiffyniad: “Pe bai e wir wedi bwriadu lladd Vicki Williams, fel y mae’r erlyniad yn ei ddweud, fe allai fod wedi gwneud hynny’n hawdd.
“Mae e’n llawer cryfach na Vicki ac, yn ein barn ni, fyddai hi ddim wedi gallu ei wrthsefyll o gwbl.”
Awgrymodd Mr Roberts fod y disgybl wedi dod â’r gyllell gegin i’r ysgol er mwyn “creu argraff” ar fechgyn eraill.
Dywedodd: “Doedd dim hanes cofnodedig o wrthdaro rhwng y disgybl a Vicki Williams.
“Does dim tystiolaeth o unrhyw elyniaeth na drwgdeimlad rhyngddyn nhw o gwbl.
“Doedd ganddo, yn ein barn ni, ddim rheswm o gwbl dros fod eisiau brifo Vicki Williams.”
Roedd y llys wedi clywed o’r blaen fod Mrs Williams wedi mynd i ysbyty yn Hwlffordd.
Roedd ganddi glwyf ar groen ei phen, crafiadau ar ei chefn a mân doriadau i’w dwylo.
Mae’r bachgen yn gwadu ceisio llofruddio, clwyfo’n anghyfreithlon a chlwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae’r achos yn parhau.