'Addawol iawn': Trafodaethau dros ysgol Gymraeg newydd yn ne Caerdydd
Mae ymgyrchwyr yn dweud bod trafodaethau “addawol iawn” wedi’u cynnal gyda Chyngor Caerdydd dros y posibilrwydd o adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn ne’r brifddinas.
Mae rhieni ac aelodau eraill o’r gymuned yn Nhre-biwt a Grangetown wedi bod yn ymgyrchu ers 2024 dros ysgol Gymraeg i wasanaethu teuluoedd de Caerdydd, a fyddai’n cynnwys darpariaeth feithrin, gynradd ac uwchradd.
Mae’r grŵp sy’n ymgyrchu wedi dweud bod “anghydraddoldeb dybryd yn bodoli yn strwythurau addysg Gymraeg y ddinas”.
Bydd ymgyrchwyr yn cynnal protest y tu allan i Neuadd y Sir ddydd Iau, tra bydd cynghorwyr yn trafod adroddiad o’r enw “Ymgysylltiad ynghylch Newidiadau Byrdymor i Addysg Uwchradd Cyfrwng Cymraeg yn 2027/28”.
Mae’r grŵp yn dweud, beth bynnag fydd y mesurau tymor byr ar gyfer 2027/28, fod angen ysgol i wasanaethu’r ardal “cyn gynted â phosib”.
Mae’r cyngor wedi dweud wrth Newyddion S4C ei fod yn y “cyfnod cynnar o ddatblygu opsiynau strategol, hirdymor ar gyfer darpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol”.
Dywedodd yr awdurdod lleol y byddai’n ymgysylltu â rhieni, disgyblion, staff a’r gymuned ehangach cyn cynnal ymgynghoriad ar unrhyw gynigion yn y dyfodol.
Daw’r cyfarfod yn sgil adroddiad newydd sy’n dangos bod y nifer o siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghaerdydd ar ei uchaf erioed.
‘Calonogol’
Dywedodd Carl Morris ar ran y grŵp eu bod wedi cynnal cyfarfod gydag arweinydd newydd y cyngor, Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Sarah Merry, a swyddogion ar ddechrau’r wythnos.
Dywedodd Mr Morris: “Mae’n galonogol eu bod nhw, ar ran Cyngor Caerdydd, yn cydnabod bod anghydraddoldeb dybryd yn bodoli yn strwythurau addysg Gymraeg y ddinas.
“Mae hyn yn effeithio’n andwyol ar deuluoedd a thrigolion de Caerdydd, sef cymunedau mwyaf aml-ddiwylliannol Caerdydd a Chymru.
“Ers ein cyfarfod, mae Sarah Merry wedi dweud mewn cyfarfod pwyllgor fod dosbarthiad ysgolion uwchradd Cymraeg yn y ddinas ‘yn gonsyrn dilys iawn’.”
Ychwanegodd Carl Morris: “Mae’r cwestiwn wedi newid o ‘os’ i ‘ble’ fydd Ysgol De Caerdydd.
“Yn y cyfamser, dydy addysg Gymraeg ddim yn opsiwn hawdd na realistig i lawer o deuluoedd yn ne Caerdydd, gan fod cyrraedd yr ysgol uwchradd Gymraeg agosaf yn golygu bod angen teithio’n bell heibio sawl ysgol Saesneg arall, ac mae rhai ag adnoddau ac adeiladau newydd sbon.”
Mae’r academydd Dr Gwennan Higham o Brifysgol Abertawe wedi ymchwilio i fynediad at addysg Gymraeg yn yr ardal.
Meddai Dr Higham: “Un o’r canfyddiadau cryfaf oedd bod diffyg ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd yn rhwystr sylweddol i deuluoedd.
“Roedd llawer o rieni yn gweld addysg cyfrwng Cymraeg fel buddsoddiad yn nyfodol eu plant ac yn dymuno ymrwymo i daith addysgol drwy’r Gymraeg.
“Fodd bynnag, roedd y diffyg dilyniant clir i’r sector uwchradd yn golygu bod rhai yn teimlo nad oedd y llwybr yn gynaliadwy, ac felly’n dewis peidio â dechrau ar addysg cyfrwng Cymraeg o’r cychwyn cyntaf.
“Mae hyn yn creu anghydraddoldeb o ran mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ac yn golygu nad yw teuluoedd yn ne Caerdydd yn cael cyfleoedd cydradd a theg i ddewis addysg Gymraeg.”
'Ehangu addysg'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod “buddsoddiad parhaus” ers 2012 wedi arwain at gynnydd o 75% yn nifer y disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn ysgolion uwchradd y ddinas.
“Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i fod wedi ymrwymo i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ledled y ddinas ac mae’n falch o’r cynnydd cryf a wnaed wrth gynyddu’r ddarpariaeth dros y degawd diwethaf a mwy.
“Mae hyn yn adlewyrchu effaith gadarnhaol ein gwaith i gynyddu’r galw a chryfhau hyder mewn addysg cyfrwng Cymraeg ledled y ddinas.
“O ganlyniad i’r llwyddiant parhaus hwn, mae’r Cyngor yn edrych ymlaen i ystyried opsiynau hirdymor yn y dyfodol ar gyfer ehangu ymhellach, gan gynnwys y potensial ar gyfer pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.”
Wrth gyfeirio at y tymor byr, dywedodd y cyngor: “Mae’r Cyngor yn cynllunio’n rhagweithiol ar gyfer cynnydd dros dro yn y galw am dderbyniad Blwyddyn 7 2027/28, gan gydnabod y disgwyl i nifer y disgyblion ostwng eto yn y blynyddoedd i ddod.
“Rhaid ystyried unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol yn ofalus i sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion cymunedau lleol.
“Gan fod cyllid ysgolion yn gysylltiedig â nifer y disgyblion, mae’n bwysig bod twf yn cael ei reoli’n strategol i gefnogi ysgolion presennol ac ysgolion newydd, gan sicrhau addysg o ansawdd uchel a sefydlogrwydd hirdymor ar draws y ddinas.
“Mae’r dull hwn hefyd yn adlewyrchu tueddiadau demograffig sy’n newid, gan gynnwys cyfraddau geni is a niferoedd disgyblion a ragwelir yn y blynyddoedd i ddod.”
