‘Babanod Cymru’n cael eu gadael ar ôl’ heb brofion sgrinio SMA
Mae elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno profion sgrinio am atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn, neu SMA, i fabis newydd-anedig.
Daw’r alwad ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ddydd Iau y bydd y profion yn cael eu cyflwyno i bob babi newydd-anedig yn Lloegr.
Mae SMA yn gyflwr genetig prin sy’n achosi i’r cyhyrau wanhau’n raddol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dilyn cyngor Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, nad yw ar hyn o bryd yn argymell sgrinio rheolaidd ar gyfer SMA.
Mae Jesy Nelson, cyn-aelod o’r grŵp pop Little Mix, wedi croesawu’r penderfyniad yn Lloegr ar ôl ymgyrchu dros y profion ers i’w gefeilliaid gael diagnosis o’r cyflwr.
Bydd y profion yn cael eu cynnal drwy ddefnyddio prawf smotyn gwaed o sawdl babi yn fuan ar ôl iddo gael ei eni. Bydd y broses o’u cyflwyno yn dechrau ym mis Hydref.
Gall SMA olygu na all babis eistedd, cropian na cherdded. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gall effeithio ar eu gallu i anadlu neu lyncu.
Gall triniaeth gynnar, cyn i’r symptomau ymddangos, arafu datblygiad y cyflwr a gwella’r rhagolygon i blant.
(Llun: PA)
Dywedodd Vicki Nash, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymgyrchoedd Muscular Dystrophy UK, fod penderfyniad Llywodraeth y DU yn “garreg filltir” i’r gymuned SMA.
“Rydym yn gwybod, gyda chyflwr fel SMA, fod amser yn hollbwysig, a bydd y datblygiad hwn yn newid bywydau cenedlaethau o blant a fydd yn cael eu geni gyda’r cyflwr yn y dyfodol,” meddai.
“Er bod hyn yn newyddion cadarnhaol, rydym yn parhau i bryderu nad oes cynlluniau o hyd i sicrhau bod profion sgrinio SMA ar gael i fabanod newydd-anedig yng Nghymru na Gogledd Iwerddon.
“Ni ddylai unrhyw faban golli’r cyfle i gael diagnosis cynnar hanfodol oherwydd lle mae’n byw.”
Mae Muscular Dystrophy UK yn amcangyfrif bod rhwng tri a phedwar o fabis yn cael eu geni gyda SMA yng Nghymru bob blwyddyn.
Dywedodd Ms Nash fod babis yng Nghymru yn cael eu “gadael ar ôl” oherwydd nad oes profion sgrinio rheolaidd ar gael.
“Heb ddiagnosis a thriniaeth gynnar, ni fydd rhai babanod sydd â SMA yn byw y tu hwnt i ddwy oed,” meddai.
“Mae’n bosib na fydd y babanod sy’n goroesi byth yn gallu cerdded, a bydd llawer yn dibynnu ar diwbiau bwydo a chymorth anadlu.
“Ond nid oes rhaid i bethau fod fel hyn. Gall derbyn triniaeth yn gynnar olygu dyfodol lle gall plentyn gerdded a byw heb offer anadlu.”
‘Cyfle euraidd’
Yn ôl Muscular Dystrophy UK, cafodd achos busnes i uwchraddio labordy sgrinio babis newydd-anedig yng Nghymru ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn yr etholiad yn gynharach eleni.
Dywedodd Ms Nash nad oedd ymateb wedi bod hyd yma, ac nad oedd ymrwymiad i gyflwyno’r profion yn rhaglen 100 diwrnod Llywodraeth Cymru.
“Mae teuluoedd yng Nghymru yn haeddu’r un cyfle â theuluoedd mewn rhannau eraill o’r DU,” meddai.
“Mae gan Lywodraeth newydd Cymru gyfle euraidd i wneud rhywbeth a fyddai’n trawsnewid bywydau teuluoedd ledled Cymru.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu heb oedi drwy gymeradwyo’r achos busnes, fel bod modd dechrau sgrinio babis newydd-anedig yng Nghymru am SMA.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Bydd y gwerthusiad mewn gwasanaeth sy’n cael ei gynnal yn Lloegr yn helpu i lywio argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ynghylch a ddylid cynnwys sgrinio ar gyfer SMA fel rhan o raglenni sgrinio smotyn gwaed babanod newydd-anedig ledled y DU.
“Rydym yn cefnogi’r GIG i wella diagnosis cyflyrau prin a byddwn yn ystyried unrhyw argymhellion yn y dyfodol gan y pwyllgor.”
Ychwanegodd fod babanod a phlant ifanc yng Nghymru yn cael gwiriadau datblygiadol rheolaidd drwy Raglen Plentyn Iach Cymru.
“Rydym yn annog unrhyw riant neu ofalwr sydd â phryderon ynghylch datblygiad eu plentyn i siarad â’u meddyg teulu neu ymwelydd iechyd er mwyn derbyn cyngor a chymorth priodol yn brydlon.”
