'Pryderon sylweddol' am ddiogelwch ar wardiau iechyd meddwl Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Mae arolygwyr wedi codi "pryderon sylweddol" am ddiogelwch cleifion ar wardiau iechyd meddwl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Nododd arolygiad dirybudd risgiau yn ymwneud â 'phwyntiau clymu', sef mannau y gallai cleifion eu defnyddio i niweidio eu hunain, yn ogystal â phroblemau atal heintiau, hyfforddiant staff a chyflwr y wardiau.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod “camau prydlon” wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon, a bod nifer o’r argymhellion eisoes wedi’u cwblhau.
Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yr arolygiad dros dridiau ym mis Ebrill 2026 ar Wardiau 21 a 22 ac yn yr Uned Gofal Dwys Seiciatrig.
Defnyddiodd AGIC ei phroses sicrwydd ar unwaith i ofyn i’r bwrdd iechyd roi sicrwydd ynghylch yr amgylchedd, atal a rheoli heintiau a diogelwch y gweithlu.
Hyfforddiant staff
Roedd cyfraddau cwblhau hyfforddiant gorfodol yn isel mewn meysydd gan gynnwys cynnal bywyd, sut i gyfyngu ar symudiadau claf yn ddiogel mewn argyfwng, codi a chario, a diogelwch tân.
Nid oedd unrhyw aelod o staff wedi cwblhau hyfforddiant ar ddefnyddio silindrau ocsigen cludadwy yn ddiogel.
Dywedodd AGIC fod pryderon tebyg wedi’u codi yn ystod arolygiad blaenorol yn 2023, gan ddangos nad oedd rhai o’r risgiau wedi’u lleihau ac nad oedd y gwelliannau wedi’u cynnal yn effeithiol.
Dywedodd cleifion hefyd eu bod yn cael trafferth cael mynediad at weithgareddau therapiwtig, mannau awyr agored a rhai cyfleusterau sylfaenol.
Nid oedd rhaglen strwythuredig o weithgareddau therapiwtig ar y wardiau, ac nid oedd cymorth therapi galwedigaethol penodol ar gael i gleifion yn yr Uned Gofal Dwys Seiciatrig.
Roedd llety cymysg o ran rhywedd, ynghyd ag ystafelloedd gwely a oedd yn cael eu rhannu ar Wardiau 21 a 22, hefyd yn effeithio ar breifatrwydd, diogelwch ac urddas cleifion.
‘Gofal tosturiol’
Er gwaethaf y pryderon, nododd yr arolygwyr fod staff yn trin cleifion â charedigrwydd, parch a thrugaredd, a bod cleifion wedi rhoi adborth cadarnhaol am eu gofal.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr AGIC: “Dangosodd ein harolygiad fod gofal uniongyrchol yn cael ei ddarparu gan y staff mewn ffordd dosturiol, a gwnaeth y cleifion sylwadau cadarnhaol yn hyn o beth.
“Fodd bynnag, nid yw'r bwrdd iechyd wedi cynnal gwelliannau a wnaed yn flaenorol mewn perthynas â phroblemau sylweddol, ac mae risgiau hirdymor o ran ystadau a'r amgylchedd yn parhau.”
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: “Rydym yn cydnabod bod meysydd lle mae angen gwelliannau. Lle nododd yr Arolygiaeth faterion sydd angen sicrwydd ar unwaith, cymerwyd camau prydlon a gweithredwyd cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.
“Mae’n galonogol gweld bod nifer o’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad eisoes wedi’u cwblhau ers yr ymweliad cychwynnol, ac mae cydweithwyr yn parhau i weithio ar gyflymder i fynd i’r afael â’r meysydd sy’n weddill, gyda chynllun gwella cynhwysfawr ar waith i gefnogi’r gweithgarwch hwn.”
