Profiad VR Cymraeg cyntaf yn creu hanes yng Ngŵyl Ffilmiau Fenis

Ôl

Mae profiad VR Cymraeg wedi cael ei ddewis ar gyfer cystadleuaeth yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis am y tro cyntaf.

Mae Ôl wedi cael ei ddewis ar gyfer y Categori Ymdrochol yn 83ain Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis.

Bydd y gwaith realiti rhithwir (VR) yn cael ei gyflwyno ar Ynys Ymdrochol Fenis rhwng 2 a 12 Medi, sef ei ddangosiad rhyngwladol cyntaf.

Cyn teithio i Fenis, bydd Ôl yn cael ei arddangos ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol yn Eisteddfod y Garreg Las rhwng 1 ac 8 Awst.

Mae Ôl yn un o 68 o brofiadau ymdrochol o bob rhan o’r byd sydd wedi cael eu dewis ar gyfer rhaglen Gŵyl Ffilmiau Fenis eleni.

Mae’r profiad yn mynd â chynulleidfaoedd yn ôl i Lanberis yn 2006, ar adeg pan oedd Twitter newydd gael ei lansio a’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn dechrau dod yn rhan o fywydau pobl ifanc.

Caiff ei adrodd yn Gymraeg gan Steffan Donnelly ac yn Saesneg gan Callum Scott-Howells, sy’n adnabyddus am ei ran yn y gyfres, It’s a Sin.

Mae’r profiad yn cyfuno theatr, tirweddau rhithwir a deunydd o Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae hefyd yn cynnwys cerddoriaeth gan artistiaid o Gymru, gan gynnwys Super Furry Animals, John Cale a High Contrast.

'Creadigrwydd'

Dywedodd y cyd-gyfarwyddwr Lucy Hammond: “Mae’n hynod gyffrous gweld Ôl yn cael ei gydnabod ar lefel ryngwladol.

“Mae gweld gwaith ymdrochol yn cael ei ddathlu yng ngŵyl ffilmiau hyna’r byd yn dangos pa mor bwerus y gall fod fel dull o adrodd straeon; rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ennyn yr un teimladau o hiraeth mewn cynulleidfaoedd byd-eang ag y mae wedi’i wneud i gynulleidfaoedd adre.”

Cafodd y gwaith ei gyd-gyfarwyddo gan Lucy Hammond a Tom Chetwode-Barton, awdur a chyfarwyddwr sy’n byw ar Ynys Môn.

Dywedodd Tom Chetwode-Barton: “Mae’n wych gweld gwaith ymdrochol Cymraeg yn cael ei gydnabod ar y llwyfan yma.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn taflu goleuni ar y creadigrwydd a’r doniau sydd gan Gymru ac yn dangos sut gall gwaith adrodd straeon ymdrochol gysylltu â chynulleidfaoedd ym mhob man.”

Mae Ôl yn gyd-gynhyrchiad rhwng Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Pilot a Dreaming Methods, mewn cydweithrediad â’r Llyfrgell Genedlaethol.

Cafodd ei wneud yn bosib drwy Archif Ddarlledu Cymru, sy’n cynnwys deunydd gan BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C.

Bydd y profiad hefyd yn cael ei arddangos yng Ngŵyl Llais yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 7 ac 11 Hydref

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.