'Cysylltiadau lleol cryf': Enwi ysgol Gymraeg newydd ym Mhowys
Mae ysgol Gymraeg newydd yn Llanfair-ym-Muallt wedi cael ei henwi ar ôl i'r gymuned gael cyfle i leisio barn.
Ysgol Bro Epynt fydd yr enw ar yr ysgol newydd ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 18 oed.
Bydd yn agor ei drysau ym mis Medi 2027.
Fe gytunodd Cyngor Powys i sefydlu'r ysgol newydd ym mis Chwefror 2026.
Mae'n golygu dod â’r ddarpariaeth Gymraeg i ben yn raddol yn ysgol ddwyieithog Ysgol Calon Cymru, sydd â champysau yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod. Ni fydd gan Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt ffrwd Gymraeg yn y dyfodol chwaith.
Y bwriad yw sefydlu Ysgol Bro Epynt ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
Bydd Ysgol Calon Cymru yn symud i'r campws yn Llandrindod yn unig.
Mae'r cyngor yn dweud iddyn nhw dderbyn 118 o awgrymiadau, yn cynrychioli 80 o enwau gwahanol gan rhieni, staff, disgyblion a pobl leol. Roedd chwe enw wedi'u rhoi ar y rhestr fer.
'Cysylltiadau lleol cryf'
Yna fe gafodd yr enwau eu rhannu gyda disgyblion yn y ffrydiau cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Calon Cymru ac Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt. Fe helpodd adborth y disgyblion y Llywodraethwyr dros dro i wneud y penderfyniad terfynol.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones, Cadeirydd y Corff Llywodraethu Dros Dro, bod llais y disgyblion yn bwysig.
"Roeddem yn falch iawn o dderbyn cymaint o awgrymiadau meddylgar gan bob rhan o'r gymuned, yn cynnwys ein dysgwyr. Roedd yn bwysig bod disgyblion yn cael y cyfle i chwarae rhan yn y penderfyniad hwn."
"Mae gan yr enw arfaethedig, Ysgol Bro Epynt, gysylltiadau lleol cryf ac mae'n adlewyrchu'r ardal ddaearyddol y bydd yr ysgol yn ei gwasanaethu. Mae'r Corff Llywodraethu Dros Dro yn edrych ymlaen at barhau â'i waith i sefydlu ysgol a fydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg ardderchog i genedlaethau'r dyfodol o ddisgyblion yng ngogledd Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed."
Nawr bydd angen i'r Aelod Cabinet dros Ddysgu Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt, gymeradwyo'r enw newydd.
"Mae dewis enw arfaethedig yn garreg filltir bwysig yn natblygiad yr ysgol newydd a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gyflwyno awgrymiadau a rhannu eu barn drwy gydol y broses," meddai.
"Dangosodd yr ymateb y gefnogaeth gref sydd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae Ysgol Bro Epynt yn enw sy'n adlewyrchu cysylltiad yr ysgol â'i chymuned a'i threftadaeth leol, ac edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn parhau i symud ymlaen tuag at ei agoriad arfaethedig yn 2027."