Saith o Brydain wedi marw mewn tanau gwyllt yn Sbaen
Mae awdurdodau yn Sbaen wedi cadarnhau bod saith o bobl o Brydain wedi marw mewn tanau gwyllt yn ne'r wlad.
Ddydd Mawrth, dywedodd cyfryngau lleol bod 12 o'r 13 sydd wedi marw yn ddinasyddion tramor.
Roedd saith o Brydain, tri o Wlad Belg, un o Ffrainc ac un arall o'r Unol Daleithiau meddai'r gwasanaeth newyddion AFP a'r cyfryngau lleol.
Mae'r person olaf sydd wedi marw yn ddinesydd o Sbaen.
Fe effeithiodd y tân ar ardal Almería pan gychwynnodd ddydd Iau.
Y gred yw mai dyma un o danau gwyllt mwyaf marwol yn hanes Sbaen.
Mae'r corff cyhoeddus oedd yn gorfod adnabod y cyrff wedi dweud mai wyth o fenywod sydd wedi marw a phump o ddynion.
Ymhlith y rhai o Brydain a fu farw yn y tân mae'r cwpl Pete a Fran Gillam, a oedd yn byw yn Bédar.
Roedd yn rhaid i bron 1,500 o bobl adael talaith Almería pan gychwynnodd y tân.
Mae'r tân erbyn hyn dan reolaeth, ond mae'r awdurdodau yn dweud bod y fflamau wedi llosgi 7,000 hectar o dir.
Llun: Reuters