Cyrffyw cyfryngau cymdeithasol yn hwyr yn y nos ar gyfer pobl ifanc
Bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn wynebu cyrffyw cyfryngau cymdeithasol yn hwyr yn y nos yn y dyfodol, meddai Llywodraeth y DU.
Bwriad y llywodraeth yw cyflwyno'r newidiadau ar gyfer apiau fel Instagram, YouTube a TikTok rhwng deuddeg y nos a chwech y bore
Ond fe fydd modd i bobl ifanc wneud newidiadau i'w cyfrifion, fyddai yn golygu na fyddai'r cyfyngiadau yn cael eu gosod ar eu ffonau.
Mae rhai wedi beirniadu'r mesurau am y rheswm hwn.
Yn ôl rhai, mae "cyfle wedi ei golli" er mwyn diogelu plant a phobl ifanc.
Fis diwethaf, fe gyhoeddodd Syr Keir Starmer waharddiad ar ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau cymdeithasol i'r rhai o dan 16 oed. Fe ddywedodd y byddai'r gwaharddiad yn dod i rym “yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn nesaf”.
Dywedodd Ysgrifennydd Technoleg Llywodraeth y DU, Liz Kendall: "Bydd y mesurau hyn yn hollbwysig wrth helpu pobl ifanc i gael y cwsg sydd ei angen arnynt, canolbwyntio ar yr ysgol a'r coleg, a threulio mwy o amser o ansawdd gyda'u teulu a'u ffrindiau – pethau sydd i gyd yn hanfodol er mwyn adeiladu bywyd oedolyn hapus, iach a bodlon.
'Llanast llwyr'
"Rydym ni am i bobl ifanc fwynhau manteision technoleg a hefyd gael yr sgiliau i wneud y byd ar-lein yn lle y gallant ffynnu."
Ond mae'r Ceidwadwyr wedi dweud mai "llanast llwyr" yw hyn gan y blaid Lafur.
"Naill ai maen nhw'n credu y dylai pobl ifanc 16 a 17 oed fod ar y cyfryngau cymdeithasol neu dydyn nhw ddim, ond fydd cyrffyw y gallant ei ddiffodd eu hunain ddim yn cyflawni dim," meddai ysgrifennydd cysgodol addysg y blaid, Laura Trott.
Mae'r Llywodraeth hefyd eisiau cyflwyno mesurau i ddefnyddio chatbotiau deallusrwydd artiffisial yn fwy saff. Bydd canllawiau newydd i blant, rhieni a gwarchodwyr yn cael eu cyhoeddi.
Ond codi amheuon mae rhai elusennau am pa mor effeithiol fyddai'r newidiadau.
"Er ein bod yn croesawu'r mesurau hyn ar gyfer pobl ifanc hŷn yn eu harddegau, mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn enghraifft arall o gyfres dameidiog o fesurau, yn hytrach na'r cynllun cynhwysfawr sydd ei angen i sicrhau diogelwch plant," meddai Andy Burrows, Prif Weithredwr Sefydliad Molly Rose.
Yn ôl Comisiynydd Plant Lloegr, y Fonesig Rachel de Souza mae "angen gwrando ar bobl ifanc. Dydyn nhw ddim eisiau gwaharddiad. Ond maen nhw eisiau cael eu hamddiffyn rhag sgrolio diddiwedd sy'n gallu eu gwneud nhw yn gaeth; dieithriaid peryglus sy'n ceisio dechrau sgwrs efo nhw; a chynnwys cignoeth y bysen nhw yn hoffi na fydden nhw erioed wedi'i weld."
Dywedodd ei bod eisiau dysgu mwy am y cyrffyw ac y bydd yn cadw golwg i weld pa mor effeithiol fydd y mesuriadau.