Elusen yn croesawu newidiadau i 'drawsnewid' strategaeth gofal canser

Iwan Rhys Roberts / Mapon ap Gwynfor

Mae elusen flaenllaw yn croesawu newidiadau Llywodraeth Cymru i "drawsnewid" strategaeth gofal canser yng Nghymru.

Dan y newidiadau sydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher, bydd y Llywodraeth yn "mynd i'r afael yn rhagweithiol ag achosion canser y mae modd eu hatal, cynyddu cyfraddau diagnosis cynnar a datblygu llwybrau gofal gorau posibl ar gyfer pob math o ganser."

Hefyd, mae'r Llywodraeth yn awyddus i gleifion, gofalwyr, clinigwyr, elusennau a'r cyhoedd lywio'r strategaeth. Maent yn dweud eu bod eisiau eu mewnbwn ar unrhyw newidiadau mawr.

Ar hyn o bryd, mae un o bob dau yn y DU yn wynebu canser yn ystod eu bywyd. Mae Cymru ymhlith y cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn Ewrop.

Bydd y strategaeth newydd yn un genedlaethol. Bydd yn "trawsnewid y ffordd o atal y clefyd, rhoi diagnosis ohono a’i drin yng Nghymru" dros y 10 mlynedd nesaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae elusen Ymchwil Canser Cymru yn dweud bod y strategaeth yn "gyfle allweddol pwysig" i atal canser a gwella gofal.

“Mae Ymchwil Canser Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru am ddatblygu Strategaeth Ganser Cenedlaethol newydd 10 mlynedd ar gyfer Cymru," meddai Iwan Rhys Roberts wrth Newyddion S4C.

“Tydi canser ddim yn parchu ffiniau a chyda chynifer ohonom yn cael ein heffeithio gan ganser - o’r cleifion eu hunain, eu teuluoedd, eu cyfeillion a’u hanwyliaid, mae hwn yn gyfle allweddol pwysig i fynd i’r afael â chanser a lleihau ei effaith ar Gymru a’i phobl.

“Diben Ymchwil Canser Cymru yw uno Cymru yn erbyn canser drwy gydweithio â gwyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd i wneud darganfyddiadau gwyddonol sy’n trawsnewid bywydau drwy ddiagnosis cynharach o ganser a thriniaethau mwy effeithiol ar ei gyfer.

“Yn yr un modd, rydym yn edrych ymlaen nawr i gydweithio â Llywodraeth Cymru a chyfrannu at ddatblygu Strategaeth Ganser Cenedlaethol Cymru fel ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i achub pobl rhag y clefyd ofnadwy hwn.”

'Pwysig'

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn dweud bod diffyg cyfeiriad cenedlaethol ac uchelgais strategol wedi tanseilio'r frwydr yn erbyn canser am gyfnod rhy hir.

Ychwanegodd y bydd yn "cryfhau atebolrwydd" ac yn sicrhau "na fydd y cod post lle mae rhywun yn byw" bellach yn penderfynu ar ansawdd y gofal y maen nhw'n ei dderbyn.

"I gleifion sy'n aros yn rhy hir am ddiagnosis, i deuluoedd mewn cymunedau gwledig sy'n wynebu rhwystrau mwy rhag cael gofal, ac i'r clinigwyr sy'n gweithio'n galed i ddarparu triniaeth o'r radd flaenaf heb ddigon o gydlynu cenedlaethol, mae'r strategaeth hon yn bwysig," meddai.

"Dydy Cymru heb gyflwyno strategaeth ganser genedlaethol ers 2006. Yn y ddau ddegawd ers hynny, mae triniaethau wedi trawsnewid, mae technoleg ddiagnostig wedi datblygu, mae anghenion ein poblogaeth wedi newid, ac mae ein dealltwriaeth o ganser wedi dyfnhau'n sylweddol.

"Mae'r Llywodraeth hon yn gweithredu'n gyflym a gyda phwrpas ar y flaenoriaeth genedlaethol bwysig hon. Mae pob person yng Nghymru yn haeddu'r cyfle gorau posib yn erbyn canser. Mi fydd y strategaeth hon yn sicrhau hynny."

Bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi i gyd-fynd â Diwrnod Canser y Byd ar 4 Chwefror 2027.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.