Amgueddfa Cymru yn rhan o 'bosiect mawr' i ddigideiddio dros 300 mlynedd o gasgliadau gwyddoniaeth

Llun: Amgueddfa Cymru
Pryfed

Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn £1.6 miliwn fel rhan o "brosiect mawr" i ddigideiddio dros 300 mlynedd o gasgliadau gwyddoniaeth.

Fel rhan o'r prosiect fe fydd Amgueddfa Cymru yn gweithio gydag Amgueddfa Astudiaethau Natur Llundain, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau UKRI a phartneriaid ledled y DU.

Dyma'r grant mwyaf i Amgueddfa Cymru dderbyn ar gyfer prosiect ymchwil - prosiect sydd yn rhan o raglen ddigidol genedlaethol 1o mlynedd gwerth £155 miliwn.

DiSSCo (Distributed System of Scientific Collections UK) sydd yn rhedeg y rhaglen, a fydd yn canoli casgliadau gwyddorau naturiol ledled y DU ar un porth.

Bydd y rhaglen yn cychwyn mis Medi. Fe fydd Amgueddfa Cymru a phartneriaid eraill y prosiect yn cofnodi tua 500,000 o sbesimenau botaneg ac entomoleg yn ddigidol gan ddefnyddio delweddu aml-gamera.

Image
Llun: Amgueddfa Cymru
Bydd sawl camera yn cofnodi'r holl fanlynion. (Llun: Amgueddfa Cymru)

Dywedodd Amgueddfa Cymru mai nhw sydd ag un o'r casgliadau mwyaf yn y DU o blanhigion prin, yn ogystal â chasgliadau herbariwm a phryfed.

Mae Jenny Geroni, Pennaeth Ymchwil Amgueddfa Cymru yn dweud bod gwaith yr amgueddfa yn cyfrannu at "ymdrechion cadwraeth ryngwladol."

"Mae ein llwyddiant wrth sicrhau'r cyllid gwerth £1.6m hwn ar gyfer y cam cyntaf yn dilyn proses ymgeisio drylwyr, ac rydyn ni’n hynod falch o fod bellach yn arwain consortiwm DiSSCo UK West," meddai.

"Mae'n dangos gwaith caled ein hymchwilwyr yn Amgueddfa Cymru ac arbenigedd ein timau curadurol a chadwraeth.

"Gan weithio gyda'n partneriaid yn y consortia, byddwn yn ceisio cyflwyno model cynaliadwy, cynhwysol ar gyfer digido gwyddorau naturiol sy'n cryfhau cyfraniad y DU at ymdrechion cadwraeth ryngwladol." 

Image
Llun: Amgueddfa Cymru
Bydd dros 5,000 o sbesimenau gwahanol yn cael eu cofnodi. (Llun: Amgueddfa Cymru)

Fe fydd y data wedi’i ddigido yn agor y casgliadau gwyddorau naturiol i ymchwilwyr ledled y byd, meddai Amgueddfa Cymru.

Bydd hwn yn canoli'r data gwyddonol er mwyn ei gwneud hi'n haws i wyddonwyr gael mynediad ato’n fyd-eang, yn hytrach na’i fod yn cael ei gadw gan amgueddfeydd unigol.

Dywedodd Dr Kevin McGinn, Curadur y Banc Hadau a'r Herbariwm yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, bod y prosiect hwn wedi dod "ar yr adeg iawn."

"Ar hyn o bryd dim ond 17% o sbesimenau planhigion sydd wedi'u digido'n llawn, a does dim o’r sbesimenau ar gael eto trwy gronfeydd data byd-eang," meddai.

"Daw'r prosiect hwn ar yr adeg iawn, gan ein galluogi i barhau i weithio gyda grŵp gwych o wirfoddolwyr ymroddedig i gwblhau'r gwaith o ddigido ein casgliad.

“Byddwn hefyd yn ymweld â chasgliadau herbariwm rhanbarthol ledled Cymru i bwyso a mesur cyfleoedd ar gyfer cefnogi eu gwaith digido hwythau drwy gydweithio yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.