Gyrru côn traffig mewn sedd awyren fel symbol o gyfeillgarwch Glasgow a Massachusetts

Y con

Mae côn traffig sydd i fod yn symbol o gyfeillgarwch rhwng Glasgow a Massachusetts wedi ei hedfan ar draws yr Iwerydd mewn sedd dosbarth cyntaf.

Yn ystod eu arhosiad yn ninas Boston yn ystod Cwpan y Byd, roedd cefnogwyr yr Alban wedi rhoi nifer o gonau traffig oren ar gerfluniau’r ddinas, gan efelychu traddodiad Glasgow o osod côn ar gerflun Dug Wellington.

Fe ymunodd maer y ddinas, Michelle Wu, yn yr hwyl drwy roi côn ar gerflun yr arwr pêl-fasged Bill Russell.

Nawr, mae côn wedi’i orchuddio â negeseuon o’r Alban ar ei ffordd i’r Unol Daleithiau, lle bydd yn teithio o amgylch Massachusetts i godi arian i elusennau iechyd meddwl.

Mae’r geiriau ‘No Boston, No Party’ ar y côn, ynghyd â lluniau sy’n dathlu’r ddwy ddinas, gan gynnwys logo’r Red Sox.

Syniad Andrew Dobbie, o Glasgow, yw’r côn. Fe fethodd â mynd i Gwpan y Byd, ond dywedodd fod fideos o’r Fyddin Dartan (Tartan Army) yn Boston wedi codi ei galon.

Image
Y con traffig
Y côn traffig ar yr awyren

Mae Mr Dobbie, a deithiodd gyda’r côn ar awyren Delta Airlines, am iddo ddod yn symbol o lawenydd a chysylltiad.

Dywedodd: “Roedd yr hyn a ddigwyddodd rhwng cefnogwyr yr Alban a phobl Boston yn gwbl naturiol, yn llawn llawenydd, ac yn union y math o stori sydd ei hangen ar y byd ar hyn o bryd.

“Bob tro y gwelais i fideos o’r Fyddin Dartan yn Boston, fe wnaethon nhw godi fy nghalon. Roedd hi’n amhosibl peidio â gwenu.

“Gall cymaint o’r hyn rydyn ni’n ei weld ar-lein deimlo’n drwm, ond roedd hyn yn wahanol. Roedd yn gynnes, yn ddoniol, yn wirion ac yn garedig. 

“Mae’r côn wedi dod yn symbol o’r teimlad hwnnw o lawenydd, cysylltiad a chariad.

“Gallwn naill ai edrych yn ôl ar yr haf hwn fel atgof hapus, neu ei ddefnyddio fel sbardun i greu rhywbeth parhaol rhwng Glasgow a Boston drwy ddiwylliant, twristiaeth, masnach a chreadigrwydd.

“Rydyn ni am i hyn fod yn fwy na rhamant dros yr haf yn unig.”

Bydd côd yn cael ei osod yn y côn, gan ganiatáu i bobl gyfrannu arian i Scottish Action for Mental Health a Massachusetts Association for Mental Health.

Dywedodd Llywodraethwr Massachusetts, Maura Healey: “Mae’r hyn a ddechreuodd gyda chôn traffig wedi tyfu’n gyfeillgarwch go iawn rhwng Massachusetts a’r Alban, wedi’i seilio ar hanes cyffredin, creadigrwydd a synnwyr digrifwch.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r eicon hwn o Glasgow i Massachusetts ac at ddathlu cysylltiad sy’n mynd ymhell y tu hwnt i Gwpan y Byd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.