Andy Burnham fydd Prif Weinidog nesaf y DU ar ôl sicrhau digon o gefnogaeth gan aelodau Llafur

14/07/2026
Andy Burnham

Andy Burnham fydd Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig ar ôl iddo sicrhau digon o gefnogaeth gan aelodau seneddol Llafur. 

Ddydd Llun, derbyniodd 27 enwebiad yn ychwanegol sy'n golygu mai 349 yw ei gyfanswm bellach.   

Mae hynny'n golygu ei bod yn amhosibl i unrhyw ymgeisydd arall sicrhau 81 enwebiad, sef yr hyn sydd ei angen i herio Mr Burnham am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.   

Tra bod bron i 80% o'r blaid Lafur seneddol wedi enwebu Mr Burnham yr wythnos diwethaf, mae'r enwebiadau ychwanegol ddydd Llun yn golygu ei fod wedi mynd y tu hwnt i'r trothwy. 

Gan mai Andy Burnham yw'r unig ymgeisydd i geisio olynu Syr Keir Starmer, mae disgwyl iddo gymryd yr awenau'n ffurfiol fel yr arweinydd Llafur yng nghynhadledd y blaid ddydd Gwener.  

Yna, bydd yn dod yn Brif Weinidog dridiau yn ddiweddarach ar 20 Gorffennaf. 

Er mai ef yw'r unig ymgeisydd, mae disgwyl i Mr Burnham gymryd rhan mewn cyfarfod holi ar-lein gydag ASau Llafur yn ddiweddarach ddydd Llun.

Dywedodd ffynonellau Llafur y byddai Mr Burnham yn defnyddio'r cyfarfod i amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y wlad, gan gynnwys datganoli grym i gymunedau, hybu twf ledled y DU a mynd i'r afael â chostau byw.

Mae disgwyl iddo roi teyrnged i Syr Keir am gyflawni ei addewid i gyflwyno Cyfraith Hillsborough, a fydd yn dychwelyd i'r Senedd ddydd Mawrth. 

Mae disgwyl hefyd iddo addo arwain y gwaith o newid y diwylliant o fewn y Blaid Lafur, gan ailadrodd ei addewid i benodi gweinidogion cabinet o bob rhan o'r blaid.

Mae disgwyl i Mr Burnham hefyd ddechrau'r cyfarfod drwy roi teyrnged i'r cyn-AS Ceidwadol Ann Widdecombe, a fu farw yr wythnos diwethaf.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Mr Burnham ar X ei bod hi wedi dioddef “gweithred erchyll o drais”, gan ddweud bod yn rhaid rhoi “yr adnoddau a'r cyfle sydd eu hangen ar yr heddlu er mwyn sicrhau cyfiawnder cyn gynted â phosibl”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.