Teyrnged i lanc a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngorseinon

Ceiran

Mae teulu Ceiran Evans, y llanc 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad  yng Ngorseinon ger Abertawe ddydd Iau wedi rhoi teyrnged iddo.  

Mae'r datganiad yn nodi: "Roedd Ceiran yn cael ei garu yn fwy nag y gall geiriau ei gyfleu, a bydd yn cael ei golli bob dydd. Roedd ei galon garedig, ei synnwyr digrifwch anhygoel, ei natur gariadus a'i wên bert wedi dod â llawenydd i bawb a oedd yn ei adnabod. 

"Bydd e wastad yn cael ei gofio fel ein bachgen bach gwerthfawr, wastad yn cael ei garu a'i gofio, a chaiff e fyth ei anghofio."

Mae dyn 18 oed wedi ymddangos o flaen ynadon wedi’i gyhuddo o lofruddio Ceiran Evans yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car a beic yng Ngorseinon.

Mae Tyler Ford, o Dreforys hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ail ddioddefwr, sef dyn 19 oed sydd yn parhau yn yr ysbyty.

Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun, 13 Gorffennaf, a bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron ddydd Mawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Pen Cae Crwn tua 13.00 ddydd Iau, 9 Gorffennaf, yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng car a beic oddi ar y ffordd, meddai'r llu.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.