Plant dwyieithog â sgiliau meddwl mwy effeithlon, yn ôl ymchwil
Mae astudiaeth newydd wedi darganfod bod meddwl plant dwyieithog ar gyfartaledd yn 6.5% fwy effeithlon na sgiliau meddwl plant uniaith.
Fe wnaeth yr ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor archwilio sgiliau meddwl plant dwyieithog Groeg-Saesneg, a darganfod bod ganddynt sgiliau meddwl uwch o’i gymharu â phlant oedd yn siarad un iaith yn unig.
Mae’r ymchwil wedi defnyddio “dull newydd radical” er mwyn mesur sgiliau meddwl plant yn “fwy cywir a chynhwysfawr nag erioed o'r blaen.”
Yn ôl arweinydd y prosiect, mae “mantais amlwg” o gyfathrebu mewn mwy nag un iaith.
Dywedodd Eirini Sanoudaki, Uwch Ddarlithydd Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor: “Mae ein canfyddiadau yn dangos y gall dysgu dwy iaith gynnwys mwy fyth o fanteision i ddatblygiad plant.
“Gofynnwyd i blant, er enghraifft, gofio ac ailadrodd cymaint o rifau â phosib, anwybyddu gwybodaeth amherthnasol a symud yn gyflym rhwng gwahanol dasgau: roedd plant dwyieithog yn gwneud hyn yn well ar y cyfan na phlant uniaith.
“Mae'r canlyniadau hyn yn bwysig i ni yma yng Nghymru ac yn wir i gymunedau dwyieithog ledled y byd.”
Yn ôl Prifysgol Bangor, fe fydd y tîm yn ehangu ei ymchwil i ieithoedd eraill, gyda phrosiect newydd ar y gweill i astudio sgiliau iaith a meddwl ymhlith plant Saesneg eu hiaith sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
‘Tawelu ofnau’
Dywedodd Athanasia Papastergiou, darlithydd yn adran Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor a phrif awdur yr ymchwil: “Mae'n gyffrous iawn datblygu'r dull newydd hwn o astudio plant dwyieithog.
“Gobeithio y bydd y canlyniadau cadarnhaol hyn yn helpu i dawelu unrhyw ofnau posib ynglŷn â magu plant yn ddwyieithog ac yn tynnu sylw at y manteision o wneud hynny.”